Undeb Rygbi Cymru'n cyhoeddi amserlen ar gyfer torri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi sut mae'n bwriadu torri nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028, gyda'r Gweilch a'r Scarlets yn debygol o gystadlu i fod yr unig ranbarth yn ne-orllewin Cymru.
Roedd yr Undeb eisoes wedi cadarnhau ei fwriad i leihau nifer y rhanbarthau fel rhan o'i strategaeth hirdymor ar gyfer y gêm broffesiynol yng Nghymru.
O dan y cynlluniau, byddai un rhanbarth wedi'i leoli yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.
Mae disgwyl i Rygbi Caerdydd, sy'n eiddo i Undeb Rygbi Cymru, a'r Dreigiau, sy'n gweithredu fel busnes annibynnol, gael trwyddedau.
Byddai hynny'n golygu y byddai'n rhaid i'r Gweilch, sydd wedi'u lleoli yn Abertawe, a'r Scarlets, sydd wedi'u lleoli yn Llanelli, gystadlu am y drydedd drwydded.
Yn ôl yr Undeb, bydd y broses o ddyfarnu'r trwyddedau yn dechrau ym mis Rhagfyr 2026, gyda phenderfyniad terfynol cyn diwedd tymor 2026/27.
"Mae Bwrdd yr Undeb wedi ystyried ystod eang o ffactorau yn fanwl wrth bennu'r tair ardal drwyddedu ar gyfer y dyfodol, ac wedi cadarnhau mai dim ond y clybiau proffesiynol presennol fydd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer trwydded," meddai datganiad gan yr Undeb.
"Mae hyn yn golygu, os ydynt yn cytuno ar delerau terfynol y drwydded, y bydd y Dreigiau a Rygbi Caerdydd yn cael cynnig y trwyddedau ar gyfer dwyrain Cymru a'r Brifddinas - yn y drefn honno."
Dywedodd Is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, John Manders: "Rydym wedi cadarnhau y bydd model gweithredu'r dyfodol yn cynnwys tri thîm proffesiynol o ddechrau tymor 2028/29 ymlaen, ac erbyn hyn mae gennym amserlen glir ar gyfer camau nesaf y broses.
"Rydym eisoes wedi dechrau rhoi'r strwythurau perthnasol yn eu lle ar gyfer cryfhau llwybrau datblygu ein chwaraewyr addawol, creu'r amgylcheddau gorau ar gyfer ein chwaraewyr hŷn, gan ddarparu'r gefnogaeth ariannol briodol a datblygu'r cyfleusterau i’w cefnogi hefyd.
"Rydym yn gwneud cynnydd pwysig fydd yn diogelu dyfodol ein gêm, yn datblygu adnoddau ac yn rhoi'r cyfle gorau i'n timau lwyddo ar bob lefel."
