Cadarnhau na fydd teigr yn cael ei ddifa yn dilyn ymosodiad angheuol ar ddyn

Teigr (Paul Harrop via Wikimedia Commons), arwydd Yorkshire Wildlife Park (Annabel Lee-Ellis/PA Wire)

Ni fydd y teigr wnaeth ymosod ar ddyn a fu farw mewn parc bywyd gwyllt yng ngogledd Lloegr yn cael ei ddifa.

Dywedodd Yorkshire Wildlife Park bod y teigr a ymosododd ar y dyn a oedd wedi mynd i mewn i gorlan y teigrod ddydd Sadwrn yn "ddiogel ac yn iach" ac na fydd yn cael ei roi i gysgu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r parc toc wedi 13.30 pan aeth y dyn i mewn i'r lloc, gan arwain at ymosodiad gan y teigr.

Cadarnhaodd Heddlu De Swydd Efrog ei fod wedi marw yn y fan a'r lle, gan ychwanegu bod ei deulu wedi cael gwybod.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd y parc bywyd gwyllt bod "nifer fawr iawn o bobl" wedi cysylltu â nhw ynglŷn ag Altai, y teigr Amur a fu'n rhan o'r digwyddiad, gan gadarnhau ei fod yn iach.

Ychwanegodd fod aelodau o staff y parc wedi cael eu "effeithio'n ddifrifol" gan y digwyddiad ac yn derbyn cymorth arbenigol.

Mae fideos sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein yn dangos anifail yn ymaflyd â dyn ifanc ar y gwair o fewn corlan arddangos yn y parc ger Doncaster.

Cafodd y parc ei gau yn fuan ar ôl y digwyddiad a chyhoeddwyd yn ddiweddarach y byddai'r atyniad yn parhau ar gau ddydd Sul.

Agorodd Yorkshire Wildlife Park yn 2009, gydag atyniad 'Land of the Tigers' yn agor yn 2011.

Y teigr 'yn iach'

Mae'r atyniad yn warchodfa ddwy erw a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer teigrod Amur, is-rywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu, gyda thua 500 ohonynt ar ôl yn y gwyllt.

Dywedodd y parc ddydd Sul: "Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi mynegi eu pryder yn dilyn digwyddiad trasig ddoe.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwfn gyda theulu ac anwyliaid y dyn a gollodd ei fywyd yn anffodus.

"Bydd y parc ar gau heddiw tra bod y tîm staff a gafodd eu heffeithio'n ddifrifol gan y digwyddiadau yn derbyn cymorth arbenigol.

"Mae nifer fawr iawn o bobl wedi cysylltu â ni ynglŷn ag Altai, y teigr. 

"Gallwn dawelu meddyliau pawb ei fod yn ddiogel ac yn iach ac na fydd yn cael ei roi i gysgu o ganlyniad i'r digwyddiad hwn."

Tocynnau ar werth

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ddydd Sadwrn eu bod wedi cael eu galw i'r safle am 13.35.

“Ymosododd y teigr ar y dyn wedi hynny, gan achosi anafiadau difrifol," meddai'r llu.

“Daeth y gwasanaethau brys, ac yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau’r staff meddygol, cadarnhawyd bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Swydd Efrog fod dau ambiwlans tir, Ambiwlans Awyr Swydd Efrog a meddyg wedi mynychu’r fan a’r lle.

Mae lluniau o'r gorlan ar wefan y parc yn dangos llwybr cerdded uchel i ymwelwyr a ffensio uwchben yr ardal lle gall y teigrod grwydro.

Mae tocynnau ar werth o hyd ar gyfer mynediad i'r parc o ddydd Llun ymlaen.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog eu bod yn ymwybodol o'r fideo o'r ymosodiad sydd ar-lein, gan ofyn i bobl beidio â'i rannu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.