Bwncath, Y Bandana a Cordia i berfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Eisteddfod Genedlaethol

Bydd Bwncath, Y Bandana a Cordia yn rhai o brif berfformwyr maes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Fe fydd dros 100 o berfformwyr ar lwyfannau amrywiol y maes drwy gydol yr wythnos 1-8 Awst.

Super Furry Animals fydd prif berfformwyr y nos Sadwrn agoriadol, tra bydd Fleur De Lys yn cloi arlwy Llwyfan y Maes ar y Sadwrn olaf.

Yn ogystal â’r bandiau fydd yn ymddangos ar y gwahanol lwyfannau, mae rhai o brif berfformwyr a themâu sesiynau hwyrol Y Garreg Las wedi cael eu cyhoeddi hefyd.

Bydd Elis James yn perfformio ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las nos Fercher 5 Awst.

Hefyd bydd sgyrsiau gydag enwogion eraill Cymru, gan gynnwys Mererid Hopwood a Manon Steffan Ros.

Image
Perfformwyr yr Eisteddfod Genedlaethol
Perfformwyr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Mae’r llu o artistiaid a pherfformwyr rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn rhoi blas o’r hyn fydd ar gael ar y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las eleni – ac, wrth gwrs, mae’r cyfan wedi’i gynnwys ym mhris tocyn dydd, fel arfer.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r pwyllgorau yn lleol am dros flwyddyn a hanner, ac mae pawb yn hynod o falch o allu datgelu heddiw pwy fydd yn ymddangos ar y Maes yn 2026.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd, gogledd Sir Benfro o 1-8 Awst eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.