Burnham ‘wedi addo peidio â thanseilio Cymru’ medd Rhun ap Iorwerth
Fe wnaeth Andy Burnham edrych i “fyw fy llygaid” ac “addo" peidio â thanseilio Cymru, meddai Rhun ap Iorwerth yn ei araith gynhadledd gyntaf fel Prif Weinidog Cymru.
Roedd yn annerch y gynulleidfa yn Venue Cymru yn Llandudno yng nghynhadledd gyntaf Plaid Cymru ers llwyddiant hanesyddol y blaid yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
Fe alwodd Rhun ap Iorwerth am ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru i unioni’r hyn a ddisgrifiodd ddydd Gwener fel “anghyfiawnder hanesyddol”.
Dywedodd wrth y gynhadledd ei fod ef a Phrif Weinidog y DU ill dau eisiau perthynas “adeiladol a gwirioneddol gadarnhaol”.
“Rwyf wedi edrych i fyw ei lygaid a dweud wrtho am beidio â thanseilio Cymru fel cenedl, ac am beidio ag osgoi ein Senedd,” meddai.
“Fe edrychodd i fyw fy llygaid ac addo na fyddai’n gwneud hynny. Byddaf yn ei ddal at ei air, a bydd Cymru’n ei ddal at ei air.”
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru: “Os bydd yn methu, bydd Cymru’n gwybod unwaith eto na fydd San Steffan byth yn gwasanaethu ein buddiannau gorau.
“A does fawr o wahaniaeth ai cefnogwr Everton neu gyn-ddisgybl Eton sy’n byw yn Rhif 10 Downing Street.”
‘Bargen newydd’
Dywedodd ei fod wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno 'bargen newydd i Gymru' er mwyn i Gymru allu elwa o'r un grymoedd â'r Alban.
Mae’n galw am ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron, lles a seilwaith rheilffyrdd, yn ogystal â mwy o hyblygrwydd ariannol.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod pobl Cymru wedi rhoi "mandad clir" i sicrhau newid cadarnhaol i'w bywydau.
"Mae'r mandad hwn yn cynnwys ymestyn datganoli i alluogi'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gael y grymoedd angenrheidiol - pwerau, cyllid a hyblygrwydd ariannol - i yrru'r cynnydd mwyaf posibl mewn canlyniadau i bobl Cymru drwy integreiddio a gwella gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi," meddai.
"Dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban."
Ychwanegodd: "Ers mynd i fyd gwleidyddiaeth, rwyf bob amser wedi addo rhoi llais cryf i Gymru.
"Nid sgript a basiwyd o swyddfa chwip San Steffan na llinellau wedi’u paratoi gan arweinydd mewn senedd arall – ond llais ein hunain.
"Ers dod yn Brif Weinidog, dyma'r llais rydw i wedi'i ddefnyddio ym mhob sgwrs gyda phob cynrychiolydd Llywodraeth y DU rydw i wedi'i gyfarfod.
"Heddiw gallaf gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gyda chais ffurfiol - Bargen Newydd i Gymru," meddai.
Ymateb y gwrthbleidiau
Wrth siarad cyn araith Mr ap Iorwerth, fe ddywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner: “Mae Cymru wedi bod yn galw am newid cyfeiriad, ond gyda Phlaid Cymru, yr unig beth rydyn ni wedi’i gael yw rhagor o’r un peth - rhestrau aros sy’n cynyddu’n gyflym a chanlyniadau addysg sy’n dirywio.
“Yr unig blaid a allai sicrhau newid gwirioneddol i Gymru yw Reform**,”** meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Unwaith eto rydyn ni'n gweld Plaid Cymru gydag obsesiwn â’r cyfansoddiad tra bod gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau a theuluoedd yn trafferthu i ymdopi â chostau byw.
“Ers yr etholiad rydym wedi gweld mwy na 30 o grwpiau trafod ac adolygiadau gan Blaid Cymru, ond maent wedi methu â chyflawni ar y materion sydd wir o bwys.
"Maent wedi methu â chadw eu haddewid i leihau rhestrau aros, maent wedi methu â nodi pryd y bydd eu cynnig gofal plant yn cael ei gyflwyno, ac maent wedi methu â chefnogi ymwelwyr iechyd i ddychwelyd i’r gwaith.
"Pryd y byddant yn bwrw ati i wneud y gwaith y cawsant eu hethol i’w wneud?”