Burnham i gynnal cyfarfod cyntaf swyddfa Rhif 10 yn y gogledd
Fe fydd Andy Burnham yn cynnal cyfarfod cyntaf o swyddfa newydd Rhif 10 yn y gogledd, wrth i’r llywodraeth addo datganoli grym allan o San Steffan.
Bydd Prif Weinidog y DU yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yn y swyddfa ym Manceinion ddydd Gwener, fel rhan o gynllun y llywodraeth i ddatganoli mwy o bwerau oddi wrth Whitehall a San Steffan.
Bydd y safle newydd, sydd wedi’i leoli yn Heron House yng nghanol y ddinas, yn ganolfan ar gyfer penderfyniadau strategol ynghylch datganoli a thwf economaidd lleol.
Disgwilir i hyd at 300 o weision sifil weithio yno erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, gyda’r gweinidogion Lucy Powell a Louise Haigh hefyd yn gweithredu’n rheolaidd o’r adeilad.
Bydd Burnham yn cadeirio cyfarfod o’r Cyngor Economaidd Cenedlaethol, pwyllgor cabinet a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2008 i ymateb i heriau economaidd ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd uwch weinidogion ac arweinwyr rhanbarthol yn bresennol, gyda’r nod o roi datganoli wrth galon cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer twf economaidd.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Burnham fod grym ac adnoddau wedi’u canoli yn Llundain ers degawdau.
“Am 40 mlynedd, mae grym ac adnoddau wedi cael eu sugno i’r canol, ac mae gormod o gymunedau wedi teimlo eu bod wedi’u hanghofio,” meddai.
Ychwanegodd fod “dyddiau Whitehall yn gwrthsefyll datganoli bellach ar ben”.
Bydd penderfyniadau ynghylch datganoli a datblygu economïau lleol yn cael eu harwain o Rif 10 y Gogledd, er y bydd y Trysorlys a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn parhau i gyfrannu at y gwaith.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, sy’n cynrychioli etholaeth ar gyrion Manceinion, hefyd yn debygol o weithio o’r swyddfeydd newydd am y tro cyntaf ddydd Gwener.
Dywedodd y llywodraeth eu bod am gryfhau’r berthynas rhwng gweision sifil, meiri ac arweinwyr dinesig a rhanbarthol, cynghorau a’r sector busnes drwy uno elfennau o’r strategaeth ddatganoli a’r polisïau twf lleol.
Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi beirniadu cynlluniau Burnham, gan ddweud eu bod yn “rhy fach”. Dywedodd fod angen iddo fynd i’r afael â chostau ynni uchel i fusnesau a’r diffyg cyllid ar gyfer amddiffyn cyn unrhyw beth arall fynd a’i sylw.
Bydd Rhif 10 y gogledd yn gweithredu dros dro o Heron House, sydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd i’r asiantaeth gudd-wybodaeth GCHQ.
Disgwylir i bencadlys parhaol y swyddfa agor yn ardal Ancoats ym Manceinion erbyn 2032.
