Cofio Eigra Lewis Roberts: 'Heb os, roedd hi'n un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru'
Mae rhaglen deyrnged newydd yn edrych ar fywyd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.
Bydd y rhaglen yn clywed am gyfraniad Eigra Lewis Roberts fel “llenor eithriadol o amlochrog a chynhyrchiol” wrth ddathlu ei bywyd a’i gwaith dros y degawdau diwethaf.
Fe fydd y rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C nos Wener.
Bu farw Eigra Lewis Roberts yn 86 oed ym mis Mawrth eleni, gan adael gwaddol sylweddol ar y byd llenyddol yng Nghymru.
Fe ysgrifennodd ddegau o gyfrolau yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu.
Yn ddiweddarach yn ei gyrfa roedd hi wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu, yn cynnwys y gyfres boblogaidd Minafon yn nyddiau cynnar S4C.
Fe wnaeth hi hefyd addasu sawl darn o lenyddiaeth adnabyddus yn y Gymraeg, a scriptio i gyfresi fel Pobol y Cwm.
Mae’r rhaglen newydd am ei bywyd yn edrych yn ôl ar gyfraniad sylweddol Eigra i lenyddiaeth Gymraeg ac yn dathlu’r etifeddiaeth a adawodd ar ôl drwy ei nofelau, ei straeon a’i gwaith o ddod â’r straeon hynny yn fyw ar gyfer y sgrin fach.
Un o brif elfennau’r rhaglen yw cyfweliad a wnaed gydag Eigra ei hun yn 2017, sydd heb ei ddarlledu o'r blaen, yn ogystal â chyfweliad emosiynol gyda’i merch, Sioned Lewis, sy’n rhannu atgofion personol am ei mam.
Mae’r rhaglen yn cynnwys archif o’i gyrfa, gydag uchafbwyntiau yn cynnwys ei dramâu ar S4C, ac ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006.
Mae cyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr hefyd, gan adeiladu darlun cynhwysfawr o awdures a fu’n un o leisiau pwysicaf llenyddiaeth Cymru dros sawl degawd.
Mae Sioned ei merch yn mynd ati i sôn am gynhesrwydd ei mam, ei hiwmor a’i hymroddiad i’w theulu, yn ogystal â’r angerdd oedd ganddi dros ysgrifennu a chreu straeon oedd yn taro tant gyda darllenwyr ledled Cymru.
Yn ystod y rhaglen, mae nifer o enwau amlwg o fyd llenyddiaeth Gymraeg hefyd yn rhoi teyrngedau i Eigra. Maent yn ei disgrifio fel awdur cwbl naturiol, gyda dawn arbennig am adrodd stori mewn ffordd oedd yn teimlo’n ddiymdrech ond yn hynod effeithiol.
Er bod ei gweithiau’n aml yn adlewyrchu bywyd bob dydd yng Nghymru, roedd y themâu yn gyffredinol ac yn oesol, gan gyfrannu at boblogrwydd parhaol ei nofelau.
I lawer, roedd Eigra Lewis Roberts yn meddu ar allu prin i gyfuno adloniant â chraffter, gan greu straeon oedd yn aros yn y cof ymhell wedi troi’r dudalen olaf.
Mae amryw ar y rhaglen hefyd yn sôn am Eigra fel rhan bwysig o ddatblygiad S4C.
Roedd yna "briodas wych rhwng ei gwaith fel nofelwraig a’r byd teledu" yn achos y gyfres deledu boblogaidd Minafon o 80au'r ganrif ddiwethaf" meddai un oedd yn actio yn y gyfres honno ac yn ffrind mawr i Eigra, John Ogwen.
Mae'r actor enwog o Sling, a chwaraeodd gymeriad Dick Powell yn un o ddramâu mwyaf nodedig Eigra Lewis Roberts, yn pwysleisio mai un o'i chryfderau mwyaf oedd ei gallu i greu cymeriadau oedd yn ymddangos yn gwbl fyw.
“Drwy ei hysgrifennu, roedd hi’n portreadu pobl gyffredin gyda sensitifrwydd, hiwmor a dealltwriaeth ddofn o’r cyflwr dynol, gan sicrhau bod darllenwyr yn uniaethu’n hawdd â’u bywydau a’u profiadau.”
“Be ddaru wneud Minafon mor ofnadwy o boblogaidd oedd cymeriadau cig a gwaed. Roedd pobl adre yn medru uniaethu efo nhw. Mae pobl yn dod i ‘nabod y cymeriadau ac yn meddwl eu bod nhw’n rhai byw.”
Beth sy’n amlwg yn y rhaglen yw ei pherthynas agos a’i gŵr, Llew, ar ffaith yn ôl Sioned ei merch, fod ei thad yn "addoli" ei mam, ac “na fydde ‘na ddim byd na fyddai ei thad yn ei wneud” iddi.
Roedd ei gefnogaeth lwyr i'w wraig wedi gallu caniatáu iddi ganolbwyntio’n ddyddiol ar ei hysgrifennu, meddai.
Mae hi hefyd yn disgrifio'r cyfleoedd prin pan yr oedd ei mam yn gallu dianc yn llwyr o'i gwaith - a hynny ar dripiau i Landudno.
“Dwi’n meddwl mai’r unig adegau oedd mam yn switsio i ffwrdd oedd pan oedd hi’n chwarae peiriannau, a hynny ar bob dydd Sadwrn ’oedd dad yn mynd i ‘neud y siopa a mi oedd mam yn mynd i’r arcêd.
“’Oedd ganddi sedd, roedd pobl yr arcêd yn ’nabod hi, oeddan nhw hyd yn oed yn rhoi presant ‘Dolig iddi.
"Dwi’n meddwl oedd chwarae y peiriannau hefyd falle’n perthyn i’r elfen gystadleuol yma, ac ’oedd hi wrth ei bodd dod nôl i’r car i ddweud wrth dad faint oedd hi wedi ennill.”
Bydd y rhaglen deyrnged yn gyfle i gynulleidfaoedd ailgydio yng ngwaith Eigra Lewis Roberts, ac i genhedlaeth newydd werthfawrogi cyfraniad awdur a oedd yn meddu ar ddawn unigryw i adrodd straeon.
Bydd y rhaglen deyrnged 'Eigra' yn cael ei darlledu ar S4C am 20:00 nos Wener ac yna ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Mae modd ail-wylio cyfres Minafon ar S4C Clic.
