Mam wedi marw mewn gwrthdrawiad wrth deithio i adnabod corff ei mab
Fe wnaeth mam farw mewn gwrthdrawiad tra'n teithio i ogledd Cymru i adnabod corff ei mab.
Bu farw Andrew Tinsley, 46 oed, mewn "damwain drasig" yn Afon Dyfrdwy yn Llangollen ar 10 Gorffennaf.
Fe wnaeth ei fam, Carol Tinsley, ei gyn-wraig a'u plant 21, 20 a 17 oed deithio o Orllewin Derby i adnabod ei gorff yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ond wrth i'r teulu basio Caer, fe fuodd eu car yn rhan o wrthdrawiad.
Bu farw Carol, oedd yn nain i chwech, yn y fan a'r lle.
Nid oes neb wedi eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad hyd yma ac mae ymholiadau yn parhau.
Roedd wyres Carol a nith Andrew, Lisa, 42 oed, ar y ffôn i un o'i chefndryd ar adeg y gwrthdrawiad.
"Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd. Y cwbl dwi'n ei wybod ydi ei bod hi wedi mynd i mewn i'r car a chychwyn, a'r peth nesaf rydyn ni'n ei glywed yw bod damwain car drasig wedi digwydd," meddai.
"Roeddwn i ar y ffôn gydag un o'r plant, oedd yn eistedd yn y sedd gefn pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Roedd yna sgrechian a sŵn mawr. Doedden ni ddim yn gwybod a oedd y ffôn wedi torri i fyny - ond fe ddaeth pethau yn amlwg wedyn."
Cafodd yr heddlu eu galw i'r bont ar Stryd y Castell yn Llangollen am tua 20:16 ar 10 Gorffennaf.
Ar ôl chwilio yn yr afon, cafodd corff 46 oed ei ddarganfod, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Wrecsam.
Dywedodd Lisa fod ei hewythr, a oedd "yn fwy fel brawd" iddi oherwydd eu hoedrannau agos, yn ymweld yn rheolaidd â Llangollen, ac yn mwynhau nofio yn yr afon.
Ychwanegodd Lisa: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd eto. Rydyn ni'n dal i aros am y wybodaeth honno. Ond hyd y gwyddom ni, fe gafodd sioc dŵr oer i'r galon. Fe wnaethon nhw geisio ailgychwyn ei galon, ond yn anffodus wnaeth e ddim llwyddo."