Llofrudd Southport wedi’i drosglwyddo o’r carchar i Broadmoor

Broadmoor

Mae llofrudd a therfysgwr oedd yn gyfrifol am ymosodiadau a llofruddiaethau merched ifanc yn Southport wedi’i drosglwyddo o’r carchar i’r ysbyty seiciatrig Broadmoor.

Mae Axel Rudakubana, a gafwyd yn euog o lofruddio tair merch ifanc yn Southport y llynedd, wedi’i drosglwyddo o garchar Belmarsh i ysbyty seiciatrig diogel Broadmoor, yn ôl adroddiad gan bapur newydd The Guardian.

Yn ôl y papur, daeth asesiad clinigol i’r casgliad na ellid ei reoli’n ddiogel o fewn amgylchedd carchar, gan arwain at y penderfyniad i’w symud i’r ysbyty sydd â mesurau diogelwch uchel iawn yn gynharach yr wythnos hon.

Mae’r costau o gadw carcharor/claf  mewn uned fel Broadmoor yn tua £300,000 y flwyddyn i’r trethdalwyr, o’i gymharu â chostau o thua £60,000 y flwyddyn am le i un person mewn carchar.

Image
Carcharor Southport

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd Rudakubana yn parhau i gael ei gadw dan glo ac nad yw’n debygol o gael ei ryddhau drwy gydol ei fywyd, er y bydd yn cael ei drin fel claf yn hytrach na charcharor tra bydd yn Broadmoor.

Mae’r erthygl gan The Guardian hefyd wedi awgrymu y gallai’r penderfyniad hyn achosi dicter ymhlith teuluoedd rhai o’i ddioddefwyr. 

Ym mis Ionawr 2025, fe brofwyd bod Rudakubana mewn cyflwr meddyliol addas i sefyll ei brawf, cyn iddo gael dedfryd o garchar am oes, gyda thymor o leiaf 52 mlynedd.

Roedd y llanc 19 oed o Banks, Sir Gaerhirfryn, wedi pledio’n euog i lofruddio Elsie Dot Stancombe, saith oed, Bebe King, chwech oed, ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, yn ystod ymosodiad mewn dosbarth dawns ar thema Taylor Swift yn Southport ar 29 Gorffennaf 2024.

Anafwyd wyth o blant eraill, ynghyd â’r hyfforddwraig Leanne Lucas a John Hayes, a geisiodd ei atal yn ystod yr ymosodiad.

Cafwyd Rudakubana yn euog hefyd o gynhyrchu’r gwenwyn biolegol ricin ac o feddu ar lawlyfr hyfforddi al-Qaida, trosedd o dan y Ddeddf Terfysgaeth.

Roedd Ymddiriedolaeth GIG Plant Alder Hey wedi cadarnhau fod Rudakubana wedi bod o dan eu gofal gwasanaethau iechyd meddwl rhwng 2019 a 2023, cyn iddo roi’r gorau i gydweithio â’r gwasanaeth. 

Cafodd ei gyfeirio ar ôl mynd â chyllell i’r ysgol ac yn ddiweddarach ddatgan ei fod wedi gwneud hynny er mwyn ei defnyddio.

Ym mis Mai 2025, fe ymosododd Rudakubana ar swyddog carchar yn Belmarsh drwy daflu dŵr berwedig ato, gan sbarduno ymchwiliad mewnol i’r digwyddiad.

(Lluniau: PA Wire)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.