‘Fel breuddwyd’: Chwaraewr rygbi o Gaernarfon yn gobeithio tanio gyda’r Dreigiau
‘Fel breuddwyd’: Chwaraewr rygbi o Gaernarfon yn gobeithio tanio gyda’r Dreigiau
Mae chwaraewr rygbi ifanc o Gaernarfon yn dweud bod arwyddo cytundeb proffesiynol gyda’r Dreigiau fel “breuddwyd yn dod yn wir.”
Ar ôl tymor tanbaid gyda Rygbi Gogledd Cymru eleni, daeth cyhoeddiad fis diwethaf y byddai Caio Parry yn arwyddo dros ranbarth y Dreigiau y tymor nesaf.
Fe lwyddodd yr asgellwr 20 oed i sgorio 14 o geisiau y tymor hwn wrth i RGC 1404 gyrraedd gemau ail gyfle Super Rygbi Cymru, gan ddenu sylw’r tîm proffesiynol o Gasnewydd.
“Oedd o’n bach o sioc i ddechrau efo’i,” meddai Caio wrth Newyddion S4C wrth drafod y foment pan gafodd gynnig ei gytundeb proffesiynol cyntaf.
“Oedd o fatha breuddwyd yn dod yn wir. Dyna di’r holl bwynt o rhoi’r oriau i gyd i fewn, i drio mynd y cam pella’ ac i gael huna’n digwydd, o’n i’n rili chuffed.”
Dywedodd y cyn ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen bod ei deulu hefyd wrth eu bodd gyda’r newyddion.
Ychwanegodd: “Nes i dderbyn cytundeb dros email, yr holl oeddwn i angen neud mynd drosto fo efo’r teulu ag efo’r clwb, ag o’n i’n hapus i arwyddo.
“Oedd pawb yn rili hapus a cefnogol. Eto, oedd o‘r un peth iddyn nhw – breuddwyd yn dod yn wir, i feddwl am faint o waith ma nhw di rhoi i mewn a faint o oriau ma nhw di rhoi i mynd a fi i ymarferion ag i gemau, so oedd o’n neis iddyn nhw gal rhyw fath o reward hefyd.”
Cefnogaeth y teulu a’r clwb
Y Morfa, sef cartref Clwb Rygbi Caernarfon, oedd man cychwyn taith Caio yn y gamp gyda’r clwb y mae wedi ei gynrychioli ar bob lefel dros y 15 mlynedd diwethaf.
“Nes i ddod i lawr i fama am y tro cynta pan oni’n bedair oed efo taid, ag oeddan ni’n ymarfer i lawr ar y cae gwaelod. Wedyn dwi di mynd o hynna, trwy’r juniors efo dre’, chwarae i tîm cynta’ dre, a wedyn nes i fynd efo Rygbi Gogledd Cymru ag ymlaen eto rŵan.
“Sw ni heb di gallu neud hyn heb pobol yn y clwb yn cefnogi a helpu fi ar y ffordd, so diolch mawr i Clwb Rygbi Caernarfon.”
Mae Caio yn aelod o deulu sydd yn angerddol dros y gamp, gyda’i daid Keith yn gyn gadeirydd a llywydd Clwb Rygbi Caernarfon, a’i fam Ceri yn dyfarnu gemau bob penwythnos.
Mae Caio’n dweud mai mawr yw ei ddyled iddyn nhw am eu dylanwad dros ei yrfa hyd yma.
“Mae mam, nain a taid wedi chwarae rhan mawr, bob un hyfforddwr trwy Clwb Rygbi Caernarfon, a wedyn hyfforddwyr RGC hefyd, Afon Bagshaw, Josh Leach, ma bob un o’r unigolion yna wedi chwarae rhan mawr yn gyrfa fi felly sw ni methu bod yma hebddyn nhw.”
‘Edrych ymlaen’
Wedi arwyddo cytundeb deuol gyda’r Dreigiau a Chlwb Rygbi Pont-y-pŵl, bydd Caio yn symud i'r de cyn dechrau’r tymor newydd yn y gobaith o greu argraff yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
“Dwi’n edrych ymlaen i weld sut fath o challenge fydd o, a be dwi’n mynd i gorfod neud i gwella fel player.
“Mae’n step dwi’n rili edrych ymlaen i gymryd a dwi’n barod i gymryd hefyd.”
Mae’r Cymro ifanc yn dweud ei fod wedi ei ddylanwadu gan seren y Springboks, Cheslin Kolbe, ac yn gobeithio y bydd ef yntau’n cael y cyfle i serennu ar y llwyfan rhyngwladol un diwrnod.
“Ers bo fi’n fach, dwi erioed di bod eisiau rhoi’r crys coch ymlaen. Dwi’n gobeithio un dydd os dwi’n gweithio’n ddigon galed a ma bob dim yn mynd y ffordd cywir, gobeithio neith huna ddigwydd.”