Bosib bod diffyg fitamin 'o ganlyniad i'w deiet fegan' wedi arwain at hunanladdiad myfyrwraig
Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae cwest wedi clywed ei fod yn bosib bod diffyg fitamin yn neiet myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn rhannol gyfrifol am ei phenderfyniad i’w lladd ei hun.
Roedd Georgina Owen, 21, o Saffron Walden, Essex, wedi dilyn deiet fegan ers 2016 “o ganlyniad i’w phryderon amgylcheddol”, meddai crwner ardal Sir Gaergrawnt, Elizabeth Gray.
Dywedodd Ms Gray fod teulu Miss Owen wedi nodi ym mis Awst 2019 nad oedd hi wedi bod yn cymryd fitamin B12 ers o leiaf chwe mis, a dywedodd Miss Owen ei bod wedi anghofio eu cymryd.
Roedd hi i fod i ddychwelyd i Brifysgol Abertawe, lle y bu’n astudio daearyddiaeth ers 2017, ar 19 Medi 2019, ond cafodd ei darganfod yn ei chartref gyda nodyn.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Addenbrooke yng Nghaergrawnt, lle bu farw ar 21 Medi, clywodd cwest ddydd Llun.
Dywedodd Ms Gray fod Miss Owen “wedi dweud wrth ei theulu ei bod wedi prynu ychwanegyn B12 organig o Ganada, gyda’r dos i fod yn 1mg unwaith y dydd, drwy chwistrell drwy’r geg”.
“Mae teulu Miss Owen yn adrodd bod Miss Owen wedi dangos ymddygiad anarferol ac anwadal yn y cyfnod cyn ei marwolaeth,” meddai.
Roedd ei dyddiaduron yn “awgrymu dirywiad yn ei hiechyd meddwl yn y cyfnod uniongyrchol cyn ei marwolaeth,” meddai.
Dywedodd y crwner fod seiciatrydd wedi dod i’r casgliad nad oedd cofnodion dyddiadur Miss Owen, o’u hystyried ar eu pen eu hunain, yn darparu digon o dystiolaeth ei bod yn bwriadu dod â’i bywyd i ben.
Ond dywedodd y seiciatrydd fod ei nodyn olaf “yn darparu tystiolaeth o salwch meddwl posib”.
Roedd yn bosib bod Miss Owen yn dioddef o rithdybiadau (delusions) ac mai diffyg fitamin B12 oedd yn gyfrifol am hynny, meddai.
Canfuwyd bod profion gwaed yn dangos “diffyg fitamin B12 a bod hyn yn debygol o fod wedi deillio o ddeiet fegan Miss Owen dros gyfnod o tua thair blynedd”, meddai’r crwner.
“Bu farw Miss Owen o ganlyniad i rwymo’r gwddf tra, ar bwysau tebygolrwydd, yn dioddef o rithdybiau a achoswyd gan ddiffyg fitamin B12 a ddatblygodd o ganlyniad uniongyrchol i’w deiet fegan.”
Dywedodd fod adroddiad arbenigol “yn dod i’r casgliad bod arwyddion annelwig Miss Owen o nam gwybyddol, gorbryder, anhawster gyda gwneud penderfyniadau syml a blinder fel y’u disgrifiwyd gan ei theulu yn y cyfnod cyn ei marwolaeth yn awgrymu anhwylder seiciatrig oedd yn datblygu’n raddol ac a arweiniodd at y rhithdybiau a fynegwyd yn llythyr olaf Miss Owen”.
Roedd wedi ei disgrifio fel person “bywiog, llawn brwdfrydedd, angerddol ac yn boblogaidd gyda’i chyfoedion a’i darlithwyr”.
Roedd hi i fod i ddychwelyd i’r brifysgol ar 19 Medi 2019, gyda’i mam yn ei gyrru yno, ac “roedd wedi gwneud cynlluniau i fynd i syrffio dros y penwythnos”.
Mae fitamin B12 i’w gael mewn cig, pysgod, wyau, cynnyrch llaeth a bwydydd sydd wedi’u hatgyfnerthu’n arbennig.
Mae gwefan y GIG yn cynghori y gall diffyg arwain at broblemau gan gynnwys problemau seicolegol, a all amrywio o iselder neu orbryder i ddryswch a dementia, yn ogystal â blinder eithafol, gwendid yn y cyhyrau a phroblemau gyda’r golwg a’r cof.
Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma.
