Bonnie Tyler yn parhau'n ddifrifol wael
Cafodd ei rhoi mewn coma gan feddygon mewn ybyty ger ei chartref yn Faro, Portiwgal yr wythnos diwethaf, ar ôl iddi gael ei rhuthro yno oherwydd problemau yn ymwneud â'i pherfedd.
Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran y gantores 74 oed: “Y bore 'ma, mae Bonnie yn dal i fod yn ddifrifol wael ond yn sefydlog mewn ysbyty yn Faro, ond mae ei meddygon yn hyderus y bydd yn gwella'n llwyr.”
Ychwanegodd bod sïon anymunol ac anwirionedd yn effeithio ar ei theulu a gofynnodd am “breifatrwydd ac urddas ar yr adeg anodd hon.”
Mae Bonnie Tyler i fod i ganu mewn cyngherddau ar hyd a lled Ewrop yn ddiweddarach eleni i nodi 50 mlynedd ers iddi gyhoeddi ei sengl lwyddiannus gyntaf Lost In France.
Mae hi i fod i berfformio ym Malta a'r Almaen yn ddiweddarach y mis hwn, gan deithio i Gaerdydd, yn ogystal ag Awstria, Hwngari, Twrci a Rwmania wedi hynny.
Cafodd Bonnie Tyler ei geni yn Gaynor Hopkins ym mhentref Sgiwen ger Castell-nedd yn 1951.
A hithau wedi ei magu gyda chariad at gerddoriaeth, cafodd ei darganfod gan y sgowt Roger Bell mewn clwb yn Abertawe.
Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei chân boblogaidd Total Eclipse Of The Heart yn 1983, a ddaeth yn Rhif 1 yn y siartiau.
Roedd ganddi bedair cân boblogaidd arall yn y deg uchaf, gan gynnwys It’s A Heartache a Holding Out For A Hero.