Cyhoeddi y bydd y cap ar brisiau ynni yn codi 4% o fis Hydref

Llun o unigolyn yn cyfrif arian

Bydd y cap ar brisiau ynni yn codi 4% o 1 Hydref ar gyfer aelwydydd arferol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, yn ôl Ofgem.

Dywedodd Ofgem y bydd y cap pris yn codi £60 y flwyddyn, neu £5 y mis, i £1,723 ar gyfer cartref cyffredin sy’n defnyddio trydan a nwy, pe bai’r lefel hon yn parhau am flwyddyn.

Dywedodd Neil Kenward, cyfarwyddwr cyffredinol marchnadoedd Ofgem: “Mae prisiau nwy rhyngwladol uchel yn parhau i wthio costau ynni i fyny yn y DU.

“Rydym yn croesawu ymyrraeth y Llywodraeth i ddileu TAW oddi ar filiau trydan. Heb hynny, byddai cwsmeriaid wedi wynebu costau hyd yn oed yn uwch y gaeaf hwn.

“Mae modd arbed arian drwy ddewis tariff sefydlog. Mae tariffau o’r fath ar gael sydd £100 neu fwy yn rhatach na chap pris mis Hydref.

“Mae llawer o gyflenwyr hefyd yn cynnig trydan rhatach i gwsmeriaid sydd â mesuryddion clyfar pan fyddant yn defnyddio trydan y tu allan i’r oriau brig.

“Mae hefyd yn werth ystyried gwahanol ddulliau talu. Cwsmeriaid sy’n rhagdalu sy’n talu cyfraddau isaf y cap pris, a gallai hynny arbed tua £45 ar gyfartaledd o gymharu â debyd uniongyrchol.”

Bydd y Llywodraeth y DU “yn parhau i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i amddiffyn teuluoedd rhag biliau na allant eu fforddio”, yn ôl yr Ysgrifennydd Ynni.

Mewn ymateb i’r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, dywedodd Miatta Fahnbulleh: “Mae’n ddealladwy y bydd teuluoedd yn poeni am gost biliau ynni y gaeaf hwn, sy’n codi oherwydd y rhyfel yn Iran.

“Mae ynni’n rhywbeth hanfodol bob dydd ac mae angen iddo fod yn fforddiadwy i bawb. Dyna pam rydym wedi torri TAW ar filiau trydan o fis Hydref, er mwyn rhoi rhywfaint o le i anadlu i deuluoedd.

“Mae hyn wedi cyfyngu ar y cynnydd yn y cap pris. Mae hefyd yn dilyn ein penderfyniad i dynnu £150 o gostau oddi ar filiau yn gynharach eleni.

“Byddwn yn parhau i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i amddiffyn teuluoedd rhag biliau na allant eu fforddio.”

Dadansoddiad

Roedd dadansoddwyr wedi disgwyl cynnydd yng nghostau ynni yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Ychwanegodd y dadansoddwyr mai'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar gost ynni, ond bod y gwres eithafol sy'n parhau ar draws Ewrop hefyd yn effeithio ar brisiau.

Ond yn ôl Cornwall Insight, bydd y cynnydd  fis Hydref yn llai na'r hyn gafodd ei ddarogan yn wreiddiol oherwydd cynlluniau i ddileu Treth Ar Werth oddi ar filiau trydan aelwydydd.  

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Andy Burnham y gallai'r polisi newydd hwn dynnu tua £45 oddi ar gap prisiau blynyddol Ofgem ym mis Hydref.

Ond mae arbenigwyr yn dadlau fod y newid diweddar yng nghostau ynni yn fyd-eang yn golygu na fydd y polisi hwn yn cael effaith enfawr.

Mae'r data diweddaraf yn dangos fod mwy na thair miliwn o ddefnyddwyr mewn dyled o £1,800 ar gyfartaledd, yn ôl Energy UK.

Yn ôl prif weithredwr cwmni Energy UK Dhara Vyas, mae "angen rhagor o gymorth" i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu rhagor o gostau.

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "mynd i'r afael â chostau byw yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, am eu bod yn gwybod fod teuluoedd yn pryderu am gostau ynni uwch y gaeaf hwn".

"Rydym yn ceisio tynnu costau TAW oddi ar filiau, er mwyn sicrhau y gall oddeutu chwe miliwn o garterfi elwa o Gynllun Cartrefi Clyd y Llywodraeth, gan wneud miliynau o gartrefi yn rhatach i'w rhedeg y gaeaf hwn" meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.