Betsi Cadwaladr wedi gwario £7m ar lawdriniaeth canser y prostad tu allan i Gymru

Betsi Cadwaladr wedi gwario £7m ar lawdriniaeth canser y prostad tu allan i Gymru

Gall Newyddion S4C ddatgelu fod bwrdd iechyd y gogledd wedi gwario dros £7 miliwn ar anfon cleifion allan o Gymru am lawdriniaeth canser y prostad ers 2020.

Mae 502 o ddynion sydd o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael eu hanfon i ysbytai yn Lloegr am brostatectomi radical ers 2020.

Mae'r gwariant blynyddol ar gyfer hyn wedi mwy na dyblu o £700,000 yn 2020/21 i dros £1.7 miliwn yn 2024/25.

Daeth y wybodaeth yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd mewn mesurau arbennig.

Mae'r ffigyrau newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o'r 502 o ddynion wedi cael eu hanfon i Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain, gyda nifer fach yn mynd i Ysbyty Prifysgol Wirral ar Lannau Mersi.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn gweithio i leihau'r angen i gleifion deithio y tu allan i Gymru am driniaeth.

‘Do'n i ddim eisiau mynd i Lundain’

Roedd Haydn Jones, 76 oed, o Wynedd, ymhlith y cleifion a gafodd gynnig prostatectomi radical yn Llundain - 300 milltir i ffwrdd o’i gartref.

Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad yn 2020 ar ôl iddo gael prawf gwaed PSA gan ei feddyg teulu.

Pan gafodd wybod y byddai'n rhaid iddo deithio i Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain er mwyn cael y llawdriniaeth, dywedodd ei fod wedi dechrau teimlo’n bryderus.

"Pan glywais i'r gair 'Llundain', nes i feddwl 'dydi hyn ddim am weithio," meddai wrth Newyddion S4C.

"O’n i’n gobeithio fyswn i’n aros yn lleol, achos mae o mor hawdd jyst mynd lawr y ffordd."

Image
Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain
Cafodd 98 o gleifion Betsi Cadwaladr eu hanfon i Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain yn 2024/25

Ychydig fisoedd ar ôl gwrthod y cynnig i fynd i Lundain, fe gafodd prostatectomi radical laparosgopig yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mewn prostatectomi radical laparosgopig, mae'r llawfeddyg yn symud yr offer â llaw, tra bod prostatectomi radical robotig - sydd bellach yn cael ei hystyried fel y safon aur - yn galluogi'r llawfeddyg i ddefnyddio breichiau robot drwy sgrin gyfrifiadur 3D.

"Roedd hynny wedi codi nghalon i, gwybod bod o’n bosib i cael y llawdriniaeth yn lleol a gwbod bo’ fi ddim yn bell o adre," meddai.

"Fysa Llundain wedi bod yn mynd rownd yn fy mhen i - pryd fyswn i’n mynd adra, a pethau felly sy’n dod i'ch meddwl pan ‘da chi’n gorfedd mewn gwely."

Er nad oedd modd cwblhau'r llawdriniaeth oherwydd cymhlethdodau, cafodd Mr Jones driniaeth radiotherapi a therapi hormonau yn ddiweddarach.

Mae’n dweud bod cael triniaeth yn lleol wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddo, gan y byddai wedi gorfod teithio i Lundain ar ei ben ei hun.

Image
Graff llawdriniaethau Betsi
Nifer y cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gafodd eu hanfon i ysbytai yn Lloegr am lawdriniaeth prostatectomi radical

Yn ôl Mr Jones, dylai mwy o gleifion allu cael y llawdriniaeth yn nes at adref.

"Mae’r cysur o fod wrth ymyl eich stepan drws yn lot gwell na teithio i lawr i Lundain," meddai.

"Mae lot o bres wedi cael ei wario. Maen nhw wedi achub bywydau, ond mae ‘na lot o bres wedi mynd yn bosib iawn i’r lle anghywir yn lle rhoi’r arian i mewn i Cymru."

Ers cael ei driniaeth, mae Mr Jones, sy’n gweithio i Grŵp Llandrillo-Menai, yn awyddus i annog dynion eraill i gael profion PSA wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.

Gyda chefnogaeth Grŵp Cefnogi Canser y Prostad Gogledd Cymru, fe lwyddodd i berswadio ei gyflogwr i gynnal digwyddiad profi eleni ar gyfer ei gydweithwyr.

Naw o bob 10 claf yn mynd dros y ffin

Yn ystod y flwyddyn ariannol gyflawn ddiwethaf, sef 2024/25, dim ond 11 o gleifion gafodd brostatectomi radical o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn yr un cyfnod, cafodd 112 o gleifion eu hanfon i ysbytai yn Lloegr ar gost o £1,693,635 i'r bwrdd iechyd. 

O'r rhain, cafodd 98 eu hanfon i Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain a 14 i Ysbyty Prifysgol Wirral ar Lannau Mersi.

Mae hynny'n golygu bod 91% o'r cleifion a gafodd brostatectomi radical wedi derbyn y llawdriniaeth y tu allan i Gymru.

Image
Llawfeddyg yn defnyddio robot da vinci
Does gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim robot da Vinci i gynnal prostatectomi radical robotig (Llun: Reuters)

Yn ôl yr ymateb i'n cais Rhyddid Gwybodaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi gwario cyfanswm o £7,031,238 ar anfon 502 o ddynion i gael prostatectomi radical robotig mewn ysbytai yn Lloegr ers 2020.

Mae'r ymateb hefyd yn cynnwys ffigyrau ar gyfer 2025/26, sy'n dangos bod 107 o gleifion wedi cael y llawdriniaeth mewn ysbytai yn Lloegr ar gost o £1,727,321 i'r bwrdd iechyd. 

Fodd bynnag, mae'r bwrdd iechyd yn nodi nad yw'r ffigyrau hynny'n derfynol, gan nad oedd costau pob achos wedi'u derbyn ar adeg yr ymateb.

'Ymrwymo i leihau’r angen i deithio'

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Clara Day, eu bod yn cydnabod y gall teithio y tu allan i ogledd Cymru am driniaeth canser fod yn "anodd" i gleifion. 

"Ar hyn o bryd, nid oes gan y Bwrdd Iechyd blatfform llawfeddygol robotig i gynnal y math hwn o weithred, ac ystyrir mai dyma’r dull safon aur ar gyfer llawer o lawdriniaethau canser y brostad," meddai. 

"O ganlyniad, a chan fod y galw’n uwch na chapasiti’r gwasanaeth lleol presennol, caiff nifer o gleifion eu cyfeirio at ganolfannau arbenigol y tu allan i Gymru er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn mynediad prydlon at y driniaeth fwyaf priodol."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod cleifion sydd angen teithio ar gyfer llawdriniaeth yn cael eu cynorthwyo gyda threfniadau teithio.

"Mae prostadectomi radical yn cael ei gynnal fel gweithred arhosiad byr fel arfer, a bydd gofyn i gleifion aros yn yr ysbyty am noson cyn dychwelyd adref fel arfer," meddai.

"Yn lleol, rydym yn cynnal rhwng 15 a 20 o weithredoedd prostadectomi radical laparosgopig bob blwyddyn. 

"Er bod gennym un llawfeddyg sydd wedi’i hyfforddi mewn prostadectomi radical â chymorth robot, mae absenoldeb platfform llawfeddygol robotig yn golygu nad oes modd cynnig y weithred hon yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd."

Image
Dr Clara Day
Dr Clara Day, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol y bwrdd iechyd

Yn ôl Dr Day, mae’r bwrdd iechyd yn "ymrwymedig" i leihau’r angen i gleifion deithio pellteroedd mawr er mwyn derbyn eu gofal. 

"Rydym yn gweithio’n agos gyda darparwyr yng Ngogledd-orllewin Lloegr er mwyn galluogi mwy o gleifion i dderbyn triniaeth yn nes at y cartref, gan hefyd leihau’r gost gyffredinol i’r gwasanaeth," meddai.

"Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn ffurfioli cytundeb gydag Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Athrofaol Prifysgol Wirral i gynnal swyddi clinigol ar y cyd, a fydd yn ein helpu i atgyfnerthu gwasanaethau canser wroleg ac i’w hadfer yng Ngogledd Cymru dros amser."

 Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn datblygu eu cynllun robotig eu hunain, meddai.

"Mae gennym un platfform robotig eisoes sy’n addas yn bennaf ar gyfer llawdriniaeth ar y coluddyn a gynaecoleg," meddai.

"Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried opsiynau eraill i ehangu ein capasiti robotig ymhellach.

"Yn ogystal, rydym yn datblygu achos busnes i gyflwyno therapi ffocal yn ein bwrdd iechyd. 

"Byddai hyn yn darparu opsiwn triniaeth ychwanegol ar gyfer cleifion addas ac yn lleihau’r nifer sydd angen llawdriniaeth radical."

Mesurau arbennig

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023.

Roedd dan fesurau arbennig hefyd rhwng 2015 a 2020.

Mewn ymateb i ganfyddiadau ein hymchwiliad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi sefydlu trefniadau ar gyfer comisiynu triniaethau gyda'r NHS yn Lloegr pan nad yw'r driniaeth ar gael i gleifion yn eu hardal leol. 

"Mae'r trefniadau hyn yn galluogi sefydliadau i gael mynediad at wasanaethau a chapasiti ychwanegol, lle nad yw hyn ar gael yn lleol, o fewn yr amserlenni sy'n ofynnol. 

"Rhaid i holl sefydliadau GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau i'w poblogaeth yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru ac o fewn yr adnoddau ariannol a staffio sydd ar gael."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.