Betsi Cadwaladr yn pwyso a mesur yr her o symud £12 miliwn at ofal sylfaenol a chymunedol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud y bydd angen penderfynu lleihau gwariant neu dynnu cyllid yn ôl o wasanaethau yn sgil gofynion gan Lywodraeth Cymru i glustnodi £12 miliwn at ofal sylfaenol a chymunedol y flwyddyn nesaf.
Mewn adroddiad ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Iechyd y Boblogaeth a Phartneriaethau'r bwrdd ddydd Iau, mae swyddogion wedi amlinellu'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sefydliad wrth geisio cyflawni'r newid.
Er mwyn cefnogi cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i symud 0.5% o adnoddau bob blwyddyn tuag at wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.
Yn ôl yr adroddiad, byddai hynny'n golygu symud tua £12 miliwn yn 2027/28, gan godi i £24 miliwn yn 2028/29 a £36 miliwn yn 2029/30.
Mae'r adroddiad yn dweud fod "hyn yn cefnogi'r uchelgais ehangach i symud ffocws gofal tuag at atal, ymyrraeth gynnar a chefnogaeth yn y gymuned, gan alluogi pobl i aros yn iach ac yn annibynnol am hirach wrth wella cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd a gofal."
Penderfyniadau anodd
Mae'r bwrdd iechyd yn rhybuddio y bydd cyflawni'r targed o symud adnoddau yn golygu gwneud penderfyniadau anodd dros sut mae ariannu gwasanaethau presennol.
Bydd angen penderfynu'n benodol pa “weithgareddau, gwasanaethau neu wariant y gellir eu lleihau, eu hailgynllunio neu roi'r gorau i'w hariannu er mwyn rhyddhau cyllid parhaol i'w ail-fuddsoddi” mewn gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae'r adroddiad yn amlinellu rhai newidiadau posibl i wasanaethau iechyd Betsi Cadwaladr, gyda'r nod o arbed arian a darparu mwy o ofal yn y gymuned yn hytrach nag mewn ysbytai.
Ymhlith y mesurau mae'r adroddiad yn eu hawgrymu, mae:
- Creu "rolau estynedig" i feddygon teulu i leihau'r galw ar ysbytai
- Darparu model iechyd menywod sy'n seiliedig ar feddygfeydd, clinigau cymunedol ac apwyntiadau rhithiol
- Ehangu profion ar gyfer cyflyrau'r galon, clefyd siwgr, problemau anadlu a chyflyrau'r llygaid yn y gymuned
- Symud mwy o driniaethau canser, croen a thriniaethau mewnwythiennol i'r cartref neu'r gymuned.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod yr adroddiad "wedi nodi nifer o risgiau a heriau a allai effeithio ar gyflawni’r cynllun," gan bwysleisio "y byddai unrhyw newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol yn destun prosesau cynllunio trylwyr, asesiadau clinigol, ymgysylltu â’r cyhoedd."
'Risg'
Mae'r bwrdd iechyd yn rhybuddio bod perygl na fydd yn gallu fforddio'r newidiadau oherwydd ei sefyllfa ariannol.
Mae'n dweud fod “risg na fydd y bwrdd iechyd yn gallu buddsoddi mewn modelau gofal newydd na chreu digon o le yn ei gyllideb i gefnogi'r broses o symud adnoddau”.
Mae hynny oherwydd "sefyllfa ariannol" y bwrdd a'r posibilrwydd y bydd angen talu am wasanaethau presennol a newydd ar yr un pryd.
“Gallai hyn arwain at weithredu'r llwybrau gofal blaenoriaeth yn arafach, ac oedi cyn symud gweithgareddau ac adnoddau tuag at ofal sylfaenol a chymunedol,” meddai'r adroddiad.
Mae pwysau ar ysbytai hefyd yn cael ei nodi fel rhwystr posibl i gyflawni'r targed.
Yn ôl yr adroddiad, mae “risg na fydd y bwrdd iechyd yn gallu rhyddhau digon o weithgarwch, capasiti ac adnoddau o wasanaethau ysbyty i ailfuddsoddi”, oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau.
Mae'n dweud y gallai'r sefyllfa “gyfyngu ar faint y newid y gellir ei gyflawni”.
'Diffyg eglurder'
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad yw'r bwrdd iechyd yn disgwyl derbyn rhagor o gyllid parhaol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r newid.
“Nid yw'r bwrdd iechyd yn rhagweld unrhyw gyllid parhaol ychwanegol y gellid ei ddefnyddio i gefnogi mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol,” meddai.
Daw'r rhybuddion wrth i'r sefydliad wynebu pwysau ariannol sylweddol.
Roedd y bwrdd iechyd wedi rhagweld diffyg o £43 miliwn yn 2026/27, ond erbyn hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, roedd y diffyg £14 miliwn yn uwch na'r disgwyl ar gyfer y cyfnod.
Mae'r adroddiad hefyd yn codi pryderon am "ddiffyg eglurder" gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y bydd y targed o symud adnoddau yn cael ei asesu.
Dywedodd nad oes sicrwydd ar hyn o bryd y bydd y buddsoddiadau a'r newidiadau i wasanaethau y mae'r bwrdd yn eu cynnig yn cael eu cyfrif tuag at gyflawni'r targed.
“Hyd nes y bydd y wybodaeth yma ar gael, ni ellir bod yn sicr y bydd buddsoddiadau arfaethedig neu ddatblygiadau gwasanaeth yn cael eu cydnabod fel cyfraniad at gyflawni'r targed,” meddai'r adroddiad.
Dywedodd Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’r adroddiad yn amlinellu ein dull o ddarparu mwy o wasanaethau mewn lleoliadau gofal cymunedol a sylfaenol fel rhan o gynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru.
“Y nod yw ei gwneud hi’n haws i bobl gael gofal yn nes at adref, lleihau’r angen i deithio i’r ysbyty a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio o amgylch anghenion cleifion.
“Mae’r adroddiad wedi nodi nifer o risgiau a heriau a allai effeithio ar gyflawni’r cynllun, gan gynnwys pwysau ariannol sy’n gysylltiedig â thargedau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer symud adnoddau, sydd wedi’u cynnwys yn y rhagdybiaethau sy’n sail i’n cynlluniau."
Ychwanegodd: “Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud, a byddai unrhyw newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol yn destun prosesau cynllunio trylwyr, asesiadau clinigol, ymgysylltu â’r cyhoedd a’r prosesau penderfynu priodol.
“Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn cael dealltwriaeth lawnach o’r gofynion sy’n sail i’r dull hwn.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i Newyddion S4C: "Mae'n rhaid i bob sefydliad GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaeth yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at ofal diogel, o ansawdd uchel ac amserol, ble bynnag y maent yn byw.
“Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal eisoes wedi trefnu uwchgynhadledd a ddaeth ag arweinwyr iechyd ynghyd i drafod cynlluniau i gynyddu cyfran gwariant y GIG a ddyrennir i wasanaethau gofal sylfaenol, ac mae wedi bod yn glir wrth fyrddau iechyd am bwysigrwydd datblygu cynllun tuag at wasanaethau cynaliadwy mewn gofal sylfaenol a chymunedol.”