Betsi Cadwaladr 'ddim yn gallu dangos yn glir' sut wariodd gyfran sylweddol o £461 miliwn o arian ychwanegol

Betsi Cadwaladr

Mae Archwilio Cymru yn dweud nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gallu dangos yn glir sut wariodd gyfran sylweddol o £461 miliwn o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, na pha effaith gafodd y buddsoddiad.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru'r roi'r £461 miliwn i fwrdd iechyd y gogledd rhwng Tachwedd 2020 a Mawrth 2026, er mwyn "cefnogi trawsnewid gwasanaethau, gwella perfformiad a chyflawni cydbwysedd ariannol", yn ôl adroddiad Archwilio Cymru.

Ond penderfynodd yr archwilwyr "na fyddai'n ymarferol" parhau â'r gwaith archwilio gan nad oedd y bwrdd iechyd yn gallu darparu'r wybodaeth angenrheidiol.

Dywedodd yr adroddiad fod hyn yn "peri pryder", gan y dylai'r bwrdd iechyd allu dangos yn glir sut cafodd yr arian ei wario a beth oedd effaith y buddsoddiad.

Mewn ymateb, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol maes o law.

Wrth archwilio 14 cynllun gwario, dim ond ar gyfer tri yr oedd y bwrdd iechyd yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol. 

Ar gyfer yr 11 cynllun arall, dywedodd Archwilio Cymru nad oedd "tystiolaeth ddibynadwy" fod yr arian wedi'i ddefnyddio fel y bwriadwyd.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod rhywfaint o'r arian oedd ar gyfer gwella gofal a trawsnewid gwasanaethau wedi cael ei ddefnyddio i ariannu costau a swyddi craidd presennol, gan gynnwys mewn gwasanaethau digidol, adnoddau dynol a'r tîm llywodraethu corfforaethol.

Ni wnaeth yr archwilwyr chwaith ganfod unrhyw dystiolaeth fod y bwrdd iechyd na Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliadau clir ar y dechrau ynglyn â monitro ac adrodd ar y ffordd gafodd yr arian ei ddefnyddio a'i effaith.

Er bod yr adroddiad yn cydnabod bod trefniadau ariannol y bwrdd iechyd wedi gwella yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'n dweud bod "tystiolaeth gyfyngedig iawn" o hyd fod yr arian wedi arwain at drawsnewid gwirioneddol mewn gwasanaethau neu welliant mewn perfformiad.

'Ddim yn gallu darparu'r wybodaeth'

Er gwaethaf yr arian ychwanegol, fe wnaeth y bwrdd iechyd ddychwelyd i ddiffyg ariannol yn 2023-24 ac yn 2024-25, ac roedd yn rhagweld diffyg o £17.4 miliwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025-26.

Roedd £40 miliwn y flwyddyn o'r arian blynyddol ychwanegol wedi'i neilltuo i helpu'r bwrdd iechyd i ymdrin â'i ddiffyg ariannol hanesyddol.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer, dywedodd y Rheolwr Archwilio Perfformiad, Andrew Doughton: "Ein casgliad yw na fyddai'n ymarferol mynd ar drywydd gwaith pellach, manylach ar ddefnydd y Bwrdd Iechyd o gyllid cymorth strategol.

"Rydym yn deall na fyddai'r Bwrdd Iechyd yn gallu darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi gwaith o'r fath. 

"Felly, mae'n debygol y byddai staff Archwilio Cymru a'r Bwrdd Iechyd yn treulio llawer o amser yn ceisio bwrw ymlaen â gwaith a fyddai'n annhebygol o ddarparu unrhyw fewnwelediad ystyrlon pellach. 

"Mae hyn wrth gwrs yn peri pryder oherwydd ein disgwyliad fyddai i'r Bwrdd Iechyd allu dangos yn glir sut mae wedi defnyddio'r holl gyllid cymorth strategol y mae wedi'i dderbyn, yn ogystal â'r enillion o'r buddsoddiad hwnnw."

Ychwanegodd Mr Doughton ei fod yn dymuno cael ymateb ysgrifenedig er mwyn amlinellu a oes gan y bwrdd iechyd unrhyw gynlluniau i ddangos yn fanylach sut mae'r arian ychwanegol wedi cael ei ddefnyddio, ac effaith y buddsoddiad hwnnw.

Ymatebion

Dywedodd Paolo Tardivel, Cyfarwyddwr Gweithredol Trawsnewid a Chynllunio Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn falch bod Archwilio Cymru wedi cydnabod dull gwell y Bwrdd Iechyd o ddefnyddio cyllid cymorth strategol gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. 

"Mae hyn yn atgyfnerthu rheolyddion ariannol a threfniadau llywodraethu cryfach ar draws y sefydliad.

"Mae Archwilio Cymru wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol gan y Bwrdd Iechyd i ategu ei waith sicrwydd, a byddwn yn fwy na pharod i ddarparu’r wybodaeth.

"Cafodd hyn ei ystyried yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Mehefin ac adroddir ar ymateb y Bwrdd Iechyd yn y cyfarfod nesaf, a ddisgwylir ei gynnal ym mis Awst."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi nodi disgwyliadau a gosod amodau clir ynghylch defnyddio’r cyllid ychwanegol a dderbyniodd y bwrdd iechyd.

"Mae’r bwrdd wedi darparu sicrwydd drwy’r fframwaith esgyniad ynghylch sut y gwariwyd y cyllid hwn.

"Mater i’r bwrdd iechyd yw egluro effaith y cyllid ychwanegol, ac mae hyn yn rhan o’r mecanweithiau esgyniad parhaus gyda Llywodraeth Cymru."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.