Bellamy: Buddugoliaeth Bosnia a Herzegovina yn erbyn Yr Eidal 'yn brifo hyd yn oed yn fwy'
Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy yn dweud fod buddugoliaeth Bosnia a Herzegovina yn erbyn Yr Eidal i gyrraedd Cwpan y Byd "yn brifo hyd yn oed yn fwy rwan".
Fe gollodd Cymru ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau diwethaf.
Roedd hynny yn golygu mai'r Eidal oedd gwrthwynebwyr Bosnia a Herzegovina yn y rownd derfynol, gyda Bosnia yn ennill ar giciau o'r smotyn unwaith yn rhagor nos Fawrth.
Mae hyn yn golygu na fydd Yr Eidal yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y trydydd tro yn olynol.
Roedd yn rhaid i Gymru chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd nos Fawrth, gyda thîm Craig Bellamy yn cael gêm gyfartal, 1-1.
Wrth ddysgu am ganlyniad Bosnia a Herzegovina a'r Eidal ar ôl y gêm, dywedodd Bellamy: "Mae'n brifo hyd yn oed yn fwy rwan.
"Ond roeddem ni'n gwybod mai dyma'r pwysau y byddai'r Eidalwyr yn wynebu a dydy hi ddim yn help eu bod nhw wedi cael cerdyn coch ar ôl 41 o funudau.
"Ond yr hyn fyddwn i'n ddweud gyda thîm Bosnia ydi eu bod nhw'n gryf, maen nhw'n creu'r nifer fwyaf o droseddau. Yn eu hymgyrch ragbrofol... nhw oedd â'r nifer fwyaf o gardiau melyn, gwaharddiadau, troseddau mewn gêm.
"Mae ganddyn nhw safon wrth gwrs. Fe ddywedais i y byddai'r gêm yn mynd i giciau o'r smotyn ond os ydych chi'n dîm fel Yr Eidal, ydych chi'n gallu rheoli eich tymer? Dydyn nhw ddim yn gallu methu allan ar Gwpan y Byd am y trydydd tro yn olynol."
Ychwanegodd Bellamy: "Fe wnes i siarad gyda thîm Bosnia ar ôl y gêm i'w llongyfarch a dymuno'n dda iddyn nhw. Dywedais wrthyn nhw y byddwn i wrth fy modd yn eu gweld yng Nghwpan y Byd, ond dwi ddim yn siwr os oeddwn i'n coelio y bydden nhw'n gallu gwneud hynny!"
