Belfast: Miloedd mewn rali gwrth-hiliaeth yn dilyn dyddiau o anhrefn

Belfast

Mae miloedd o bobl wedi mynychu rali gwrth-hiliaeth yn Belfast yn dilyn dyddiau o anhrefn ar ôl i ddyn ymosod ar ddyn arall gyda chyllell ar stryd yn y ddinas.

Cafodd y rali, sydd wedi ei threfnu gan fudiad Unite Against Racism, ei chynnal tu allan i Neuadd y Ddinas.

Mae'n dilyn dyddiau o wrthdystio treisgar ledled Belfast yn sgil yr ymosodiad honedig gan Hadi Alodid, sydd yn wreiddiol o Swdan, ar ddyn arall.

Fe wnaeth dioddefwr yr ymosodiad, Stephen Ogilvie, golli ei lygad ac fe gafodd anafiadau i'w ben, ei wyneb a'i gefn.

Mae Hadi Alodid wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac fe wnaeth ymddangos yn y llys ddydd Mercher.

Arweiniodd yr ymosodiad honedig at sawl noson o anhrefn a thrais yn erbyn mudwyr.

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.