Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar y Mynydd Du
Mae beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar y Mynydd Du ger Brynaman ddydd Sul.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Triumph arian a beic modur Honda coch ar ffordd y A4069 o Frynaman dros y Mynydd Du am tua 13:10.
Bu farw’r dyn 48 oed oedd yn gyrru’r beic modur Triumph yn y fan a’r lle.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod ei deulu wedi cael gwybod.
Cafodd beiciwr yr Honda coch, menyw 42 oed, anafiadau difrifol ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty lle mae’n dal i fod ar hyn o bryd.
Mae ei pherthnasau hefyd wedi cael gwybod am yr hyn ddigwyddodd.
Cafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymchwiliadau’r heddlu cyn cael ei hailagor am tua 20:00.
Dywedodd y llu eu bod yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu, yn ogystal ag unrhyw un all fod a deunydd dashcam neu ffôn symudol.