BBC i dorri cannoedd o swyddi cyn diwedd y flwyddyn ariannol
Mae’r BBC wedi dweud y bydd angen torri 550 o swyddi o’r adran newyddion, cenhedloedd a chynnwys mewn ymgais i arbed £160 miliwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mewn e-bost i staff ddydd Mercher, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC, Matt Brittin, y byddai’r gorfforaeth yn torri rhwng 1,800-2,000 o swyddi yn yr adrannau yma dros y tair blynedd nesaf.
Yn ogystal, dywedodd bod disgwyl i 700 o swyddi gael eu colli yn yr adran gorfforaethol.
Dywedodd Mr Brittin y byddai rhai rhaglenni hefyd yn dod i ben o ganlyniad i’r pwysau ariannol.
Nid oes manylion eto ynglŷn â pha raglenni bydd yn cael eu heffeithio, ond dywedodd y byddai cyllideb comisiynu’r adran newyddion, cenhedloedd a chynnwys yn gostwng £80 miliwn yn 2027/28.
Bydd portffolio sianelau teledu a radio’r gorfforaeth hefyd yn cael eu hadolygu “wrth i gynulleidfaoedd symud ar-lein,” meddai’r llythyr at y staff.
Bydd toriad o 10% yn swyddi uwch swyddogion y BBC yn ogystal.
Daw’r toriadau fel rhan o ymdrech i arbed £500 miliwn o gyllideb y gorfforaeth dros y ddwy flynedd nesaf.
'Dewisiadau anodd a gwaith gofalus'
Yn y llythyr, dywedodd Mr Brittin, a ddechreuodd yn ei swydd lai na fis yn ôl: “Mae maint yr arbedion yn golygu dewisiadau anodd, gwaith gofalus ac ni fydd popeth yn barod ar unwaith. Bydd mwy o arbedion yn cael eu nodi yn ystod y misoedd nesaf, a hynny ar draws pob adran.
“Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr iawn. Mae ein cynulleidfaoedd yn dibynnu arnom bob dydd i'w diweddaru, i’w diddanu ac i fod yn barod i wneud synnwyr o'r byd.
“Mae gwneud arbedion wrth gyflawni ein cenhadaeth yn golygu cyfnod hyd yn oed anoddach i bawb.”
Wrth ymateb i gyhoeddiad y BBC, dywedodd Philippa Childs, Pennaeth yr undeb Bectu: “Er bod disgwyl toriadau, mae hyn dal i fod yn ddinistriol i’r gweithlu ac i’r BBC cyfan.
“Mae toriadau o 10% [i holl swyddi’r BBC], pan fo incwm termau real o ffi’r drwydded eisoes i lawr £1.3bn yn ystod y degawd diwethaf, yn sylweddol a bydd yn effeithio ar allu’r BBC i gyflawni eu cenhadaeth fel gwasanaeth cyhoeddus.”
Ychwanegodd y byddai’r undeb yn gweithio gyda’r BBC “i leddfu effaith y toriadau gymaint â phosib ac fe fyddwn yn cefnogi aelodau sy’n wynebu diswyddo gwirfoddol (redundancy) yn ogystal â’r rhai a fydd yn gweld eu llwythi gwaith yn newid yn sylweddol.”