Y Barri: Annog rhieni i gael brechiad i blant wedi achosion o Hepatitis A

Brechu plant

Mae rhieni a gofalwyr plant rhwng un a phum mlwydd oed, sy'n byw neu'n mynd i'r ysgol neu ofal plant yn Y Barri, yn cael eu hannog i gael brechiad hepatitis A.

Daw hyn yn dilyn cynnydd mewn achosion yn yr ardal.

Dywedododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu bod yn darparu'r brechlyn am ddim “i helpu i amddiffyn plant, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach rhag achosion parhaus o hepatitis A yn y dref”.  

Mae 11 o achosion wedi'u cadarnhau yn y dref ers mis Rhagfyr 2025, meddai’r Bwrdd.

Mae hepatitis A yn haint yr afu a achosir gan feirws, sy'n lledaenu'n hawdd.  

Ychwanegodd y bwrdd iechyd gallai symptomau gynnwys “tymheredd uchel, teimlo'n sâl, a phoen stumog”.

Mae’r Bwrdd yn cynghori “er y bydd llawer o blant ifanc yn dangos mân symptomau neu ddim symptomau o gwbl ar ôl cael yr haint, gallant barhau i gario'r feirws a'i drosglwyddo'n hawdd i eraill a allai fod yn agored i niwed a mynd yn ddifrifol wael”.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae ymchwiliadau yn dangos bod y feirws yn lledaenu yn y gymuned ond nid oes gwybodaeth am o ble mae’r cynnydd mewn achosion wedi dechrau. 

Dywed swyddogion iechyd mai'r cynnig brechu hwn yw'r ffordd orau o atal lledaeniad hepatitis A.

Fe fydd rhieni neu ofalwyr y plant sy’n gymwys yn derbyn gwahaoddiad yr wythnos hon i glinig brechu gan y bwrdd iechyd.

Dywedodd Sion Lingard, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Gall hepatitis A ledaenu'n hawdd, ac efallai y bydd gan blant ifanc symptomau ysgafn neu ddim symptomau o gwbl tra'n dal i drosglwyddo'r feirws i eraill. 

"Drwy ddod i gael y brechiad, gall rhieni a gofalwyr chwarae rôl hanfodol wrth helpu ni i dorri'r gadwyn haint a dod â'r brigiad hwn o dan reolaeth.

"Dyma gam syml, diogel ac effeithiol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant, teuluoedd a chymuned gyfan Y Barri."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.