Baner Ynysoedd y Falklands yr Ariannin yn 'gwbl amhriodol' meddai Llywodraeth y DU

Y faner am y Malvinas

Mae un o weinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud bod baner yn hawlio Ynysoedd y Falklands a gafodd ei dal gan chwaraewyr yr Ariannin ar ôl curo Lloegr yng Nghwpan y Byd yn "gwbl amhriodol".

Torrodd yr Archentwyr galonnau’r Saeson yn Atlanta ddydd Mawrth gyda dwy gôl hwyr gan Enzo Fernandez a Lautaro Martinez i gyrraedd y rownd gynderfynol.

Ar ôl y chwiban olaf, fe wnaeth chwaraewyr yr Ariannin ddathlu gan ddal baner a oedd yn dweud “Las Malvinas son Argentinas”, sy’n golygu “Mae Ynysoedd y Falklands yn perthyn i’r Ariannin”.

Wrth ymateb, dywedodd y gweinidog Peter Kyle o Lywodraeth y DU ei fod yn "gyfan gwbl amhriodol" i fod wedi gwneud hynny.

“Mae angen i wleidyddiaeth fod ar wahân i bêl-droed," meddai.

“Mewn gwirionedd, un o egwyddorion canolog Cwpan y Byd yw bod gwleidyddiaeth ar wahân i bêl-droed.

“Mater i Fifa yw hynny nawr. Rwy’n disgwyl i Fifa ymchwilio yn drylwyr.”

Mae Ynysoedd y Falkland, sy’n diriogaeth Brydeinig dramor yn ne-orllewin Cefnfor yr Iwerydd, yn parhau’n destun anghydfod rhwng y Deyrnas Unedig a’r Ariannin.

Fe aeth y ddwy wlad i ryfel dros y grŵp o ynysoedd, sydd 300 milltir oddi ar arfordir dwyreiniol yr Ariannin, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 1982.

Bu farw 655 o filwyr yr Ariannin a 255 o filwyr Prydain – gan gynnwys 33 aelod o’r Gwarchodlu Cymreig - yn ystod y gwrthdaro 74 diwrnod. Bu farw tri o bobl o’r ynysoedd hefyd.

Mae cod ymddygiad stadiwm FIFA yn gwahardd “baneri, fflagiau, taflenni, dillad a chyfarpar arall sydd o natur wleidyddol, sarhaus, a/neu wahaniaethol” y tu mewn i stadiwm. 

Yn 2014, fe wnaeth FIFA roi dirwy o £20,000 i Gymdeithas Bêl-droed yr Ariannin ôl i’w chwaraewyr ddal baner gyda’r un neges cyn gêm gyfeillgar yn erbyn Slofenia.

Dywedodd corff llywodraethu pêl-droed y byd fod gwneud hynny wedi torri rheolau ynghylch gweithgarwch gwleidyddol ac ymddygiad timau.

Nid yw FIFA wedi ymateb eto i unrhyw gais am sylw.

‘Goresgynwyr’

Ar ôl y fuddugoliaeth dydd Mercher, fe wnaeth Dirprwy Arlywydd yr Ariannin, Victoria Villarruel, gyhoeddi neges ar wefan X yn dweud nad “gêm arall yn unig oedd hon”, ochr yn ochr â fideo a oedd yn ymddangos fel petai’n dangos milwyr o’r Ariannin.

“Mae Ynysoedd y Falkland yn perthyn i’r Ariannin,” meddai Villarruel. “Fe wnaethon nhw wahardd pobl rhag mynd â nhw i’r stadiwm ac anghofio ein bod yn eu cario yn ein gwaed ac yn ein calonnau.”

Cyn y gêm, roedd Villarruel wedi dweud bod y rownd gynderfynol yn ymwneud â “rhoi’r goresgynwyr yn eu lle”.

Fe wnaeth chwaraewyr yr Ariannin hefyd ganu caneuon a oedd yn cyfeirio at Ynysoedd y Falklands ar ôl eu buddugoliaeth ddramatig o 3-2 dros yr Aifft yn yr 16 olaf.

Ond cyn y rownd gynderfynol, roedd y rheolwr Lionel Scaloni wedi dweud nad oedd yn mynd i “gymysgu” pêl-droed a gwleidyddiaeth.

“Y gwir amdani yw mai gêm bêl-droed yw hon,” meddai.

“Alla i ddim cymysgu pethau, yn enwedig o barch at yr hyn a ddigwyddodd gymaint o flynyddoedd yn ôl.

“Roedd yn gyfnod trist iawn yn ein hanes, a does dim llawer y gallwn ni ei wneud amdano, dyna’r gwir.

“Mae pethau’n digwydd mewn rhannau eraill o’r byd, ac rydym yn beirniadu bodolaeth rhyfel. Rydym yn sicr yn cofio’r bobl hynny, wrth gwrs. 

“Ond gêm bêl-droed yw hon, ac ni ddylem gymysgu’r ddau beth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.