Bachgen o Gaerdydd yn galw am fwy o sylw i’w gamp ar ôl cael ei ddewis i Dîm Prydain

Bachgen o Gaerdydd yn galw am fwy o sylw i’w gamp ar ôl cael ei ddewis i Dîm Prydain

Mae bachgen 13 oed o Gaerdydd sydd wedi ei cael ei ddewis fel yr unig un o Gymru yng ngharfan dan-16 Tîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Softball Ewrop yn galw am fwy o ymwybyddiaeth i'r gamp. 

Dim ond ers blwyddyn y mae Owain wedi bod yn ymarfer y gamp, ac fe fydd yn teithio i'r Weriniaeth Tsiec ym mis Mehefin i gystadlu ym mhencampwriaethau Ewrop. 

Mae 'softball' yn gamp sydd yn debyg i rownderi neu bêl-fas, ond gyda phêl fwy ac ar gae llai. 

"Fi’n rili hapus oherwydd fi dim ond ‘di bod yn chwarae am blwyddyn ond fi’n barod wedi cael ar y tîm," meddai Owain wrth Newyddion S4C.

"Fi’n rili balch bo’ fi wedi cael fy newis oherwydd mae jyst yn rhywbeth fi yn rili hoffi neud, a ie, ma’ jyst yn rili hwyl."

Mae un Cymro arall wedi ei ddewis yn y garfan dan-18, ac mae Owain yn teimlo'n falch iawn mai ef yw'r unig un o Gymru sydd wedi ei ddewis yn y garfan dan-16. 

"Fi’n rili balch bo’ fi yn yr unig Cymro o dan 16 sy’ ar y garfan," meddai.

"Fi’n meddwl bod e’n eitha anodd codi ymwybyddiaeth oherwydd ma’ ddim yn rhywbeth ma’ lot o bobl ‘di clywed am oherwydd mae’n mwy o chwaraeon Americanaidd."

Mae Owain yn credu mai codi mwy o ymwybyddiaeth ar-lein yw'r ffordd o sicrhau fod mwy o bobl yn ymwybodol o'r gamp. 

"Fi’n meddwl falle jyst neud pethe mwy ar-lein oherwydd ma’ ‘na lot o bobl yn edrych ar-lein a ie, fi’n meddwl bydd hynna’n helpu codi ymwybyddiaeth," meddai.

"Fi’n meddwl bod e’n bwysig bod chwaraeon sydd bach yn llai yn cael mwy o poblogrwydd oherwydd fi’n meddwl bod e’n bwysig i gael mwy o timau, a mwy o gystadleuaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig."

Image
Owain
Dim ond ers blwyddyn y mae Owain wedi bod yn chwarae'r gamp.

Mae Owain yn ddiolchgar iawn i'w hyfforddwr, Holly Ireland yng nghlwb Celtiaid Caerdydd, ac mae Holly hefyd yn teimlo fod angen codi ymwybyddiaeth o'r gamp yng Nghymru.

"Oherwydd fod pêl-fas Cymreig a rownderi a chriced yn fwy adnabyddus ymysg chwaraewyr, mae pobl yn dueddol o fynd atyn nhw yn gyntaf yn hytrach na'n camp ni," meddai Holly wrth Newyddion S4C.

Mae Holly yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth ar gyfer y gamp yng Nghymru. 

"Gyda'r holl weithgareddau sy'n cael eu cynnal gennym ni, does yna ddim cae pwrpasol. Rydym ni'n ei gwneud mewn parciau, ac yr un yw'r sefyllfa ar gyfer pêl-fas Cymreig a rownderi," meddai.

"Rydym ni angen backstop [rhwyd ddiogelwch] oherwydd y rheswm nad ydyn ni'n gallu cynnal pencampwriaethau ydi nad oes gennym ni safle pwrpasol ar gyfer y gamp. 

"Rydym ni mewn trafodaethau ar hyn o bryd, ond nid yw pethau yn mynd o'n plaid ni i gael backstop parhaol. Byddai hyn yn fwy diogel i bobl sy'n gwylio, ac yn ail, mae'n gwneud y gêm yn haws i'w chwarae."

Image
Owain
Mae Owain yn gyffrous iawn i gystadlu yn y bencampwriaeth.

Mae Holly yn falch iawn o Owain, meddai.

"Fedra i ddim bod yn fwy balch. Mae Owain yn chwaraewr ffantastig, mae o ar draws y bêl i gyd ac mae wastad yn barod am unrhyw beth," meddai.

"Byddwn i wrth fy modd yn cael tîm yn llawn o bobl fel Owain ac mae ei agwedd yn anhygoel hefyd."

Fe fydd yn rhaid i bob chwaraewr ariannu ei daith i gyrraedd y gystadleuaeth, ac mae Tîm Prydain wedi lansio ymgyrch ar ran y chwaraewyr i gyd er mwyn helpu â chostau. 

Dywedodd rheolwr tîm Prydain dan-16 Rosie Reynolds wrth Newyddion S4C: "Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni redeg ymgyrch codi arian ar ran y tîm cyfan ar gyfer y dan-16 a dan-18. Yn bersonol, un o fy rhesymau dros wirfoddoli fel Rheolwr Tîm ar gyfer y dan-16 oedd i helpu sicrhau fod y cyfle ar gael i bawb, i geisio stopio'r gamp rhag bod yn un 'talu i chwarae', yn enwedig ar lefel Ewropeaidd.

"Rydyn ni eisiau cyrraedd pwynt lle nad oes yr un plentyn yn talu i chwarae a chynrychioli ei wlad."

Ychwanegodd: "Gan ein bod ni'n gwneud hyn gyda'n gilydd fel grŵp, yn hytrach na chwaraewyr unigol yn ceisio nawdd ar eu pen eu hunain, mae gennym ni bellach 35 o deuluoedd yn rhannu ac yn lledaenu'r neges, sy'n golygu cyrhaeddiad ac ymwybyddiaeth llawer mwy nag y byddan nhw wedi'i gael ar eu pen eu hunain. 

"Mae wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas cyffredin ar draws y timau, ac mae'r ysbryd tîm hwnnw'n mynd y tu hwnt i'r codi arian."

Image
Natalie
Natalie Hull, prif hyfforddwr tîm Prydain dan-16

Ychwanegodd Natalie Hull, prif hyfforddwr tîm Prydain dan-16 wrth Newyddion S4C: "Nid oes digon o gyfleusterau pwrpasol ar ei gyfer. Mae'n gamp broffesiynol enfawr ar draws y Gymanwlad sy'n cael ei chwarae mewn dros 30 o wledydd ac mae digwyddiadau bob blwyddyn i wahanol grwpiau oedran chwarae ledled y byd.

"Pan 'dyn ni'n mynd dramor i Ewrop i chwarae, bydd gan y mwyafrif o drefi gyfleusterau pêl fas a softball lle bydd timau'n dod i chwarae ar gae chwaraeon-benodol.

"Nid oes digon o gyllid ar lawr gwlad ar gyfer y gamp ar gyfer hyfforddi na datblygu caeau.

"Mae Owain (dan -16) a Curtis (dan-18) yn cynrychioli de Cymru ac yn rhoi sylw newydd yn yr ardal yma. Mae hyn yn wych nid yn unig i Softball Prydain ond hefyd i'r holl chwaraewyr ifanc ledled de Cymru a all ddilyn ein cynnydd hyd at y Pencampwriaethau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.