Awgrym bod Sain Ffagan wedi ystyried symud adeiladau o Gapel Celyn cyn boddi'r pentref

Capel Celyn

Mae llythyrau o ddechrau'r 1960au yn awgrymu bod Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi ystyried symud adeiladau o Gapel Celyn cyn i'r pentref gael ei foddi.

Yn 1965, cafodd Cwm Tryweryn ei foddi i wneud cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf yng Nghymru.

Mae gohebiaeth o bum mlynedd ynghynt yn awgrymu fod curadur Sain Ffagan ar y pryd, Iorwerth C Peate, wedi gwneud ymholiadau am y posibilrwydd o symud "un neu fwy" o adeiladau o Gapel Celyn i’r amgueddfa er mwyn eu diogelu.

Ond penderfynodd nad oedd modd achub yr adeiladau, gan ei bod yn debygol y bydden nhw’n cael eu “dymchwel neu yr ymyrrid â nhw yn y dyfodol agos iawn”.

Mae Newyddion S4C wedi gweld y llythyrau rhwng Iorwerth C Peate a Thomas Alker, clerc Cyngor Dinas Lerpwl, o 1960.

Yn y llythyr sy'n dyddio'n ôl i 21 Medi 1960, dywedodd y curadur: "Gan fod y sefydliad cenedlaethol hwn yn ymwneud â diogelu mathau o dai a fyddai fel arall yn cael eu dinistrio, mae’n bosib y byddai gennym ddiddordeb mewn un neu fwy o’r tai sydd dan fygythiad."

Gofynnodd am restr o'r tai yng Nghapel Celyn ac am ganiatâd i'w harchwilio "mewn da bryd cyn i unrhyw ymyrraeth ddigwydd iddynt".

Image
Llythyrau Capel Celyn a St Ffagan
Copïau o'r llythyrau rhwng Sain Ffagan a Chyngor Lerpwl. Ni wnaeth Cyngor Lerpwl wrthod cais i symud adeilad i'r Amgueddfa. 

Mewn ymateb ar 12 Hydref 1960, dywedodd Mr Alker fod y peiriannydd dŵr yn argymell bod cynrychiolydd o'r Amgueddfa yn ymweld â'r adeiladau "cyn gynted â phosibl".

Ond mewn llythyr arall ar 1 Tachwedd 1960, dywedodd Iorwerth C Peate ei fod wedi ymweld â Chapel Celyn ei hun ac wedi gweld rhai o'r tai.

"Gan ei bod yn debygol y byddant yn cael eu dymchwel, neu y bydd rhywun yn ymyrryd â nhw yn y dyfodol agos iawn, byddai’n gwbl amhosibl i ni ystyried symud unrhyw un ohonynt," meddai.

Ychwanegodd fod y gwaith oedd eisoes yn mynd rhagddo yn golygu ei bod yn "amhosibl cyrraedd rhai o'r tai".

Gofynnodd hefyd a fyddai modd cael "darluniau wrth raddfa o bob adeilad" er mwyn cadw cofnod ohonyn nhw ar gyfer yr Amgueddfa.

'Hanes yn fyw o'm cwmpas ni'

Roedd Gwyn Roberts yn ddisgybl "answyddogol" yn Ysgol Capel Celyn, lle roedd ei fam Martha Roberts yn brifathrawes yno.
 
"Pan fyddai Mam yn mynd i'w diwrnodau hyfforddiant, roedd angen gwneud rhywbeth efo fi... ac felly byddwn i'n mynd efo hi i'r ysgol ac wrth fy modd," meddai.
 
Image
Gwyn Roberts yn blentyn
Gwyn Roberts (canol), plentyn prifathrawes Ysgol Capel Celyn yn ôl yn y 60au
"Roedd Mam yn athrawes, yn brifathrawes... yn gogyddes o bryd i'w gilydd. Roedd hi'n gwneud y cyfan! 
 
"Felly, o'n i'n ddisgybl answyddogol o ryw fath i'r ysgol bryd hynny."
 
Erbyn hyn, mae Mr Roberts yn ymweld ag ysgolion a chymunedau er mwyn rhannu hanes Tryweryn.
 
"Mae'n bwysig bod plant yn gwybod bod y ffasiwn beth wedi digwydd ac am hanes boddi Capel Celyn - mae hanes yn fyw o'n cwmpas ni," meddai.
 
"Yn achlysurol bydda' i'n mynd i rannu'm hanes i gyda phlant mewn ysgolion. 
 
"'Dw i'n gweld bod mwy o ddiddordeb wedi bod yn hanes y pentref ers i'r wal enwog yn Llanrhystud gael ei dymchwel.
 
"'Dw i'n siarad am y lle ac yn dangos y lluniau mor aml fel eu bod yn parhau yn fyw iawn i mi."
Image
Martha Roberts yng nghanol plant Ysgol Capel Celyn
Martha Roberts, mam Gwyn Roberts, yng nghanol disgyblion Ysgol Capel Celyn
I Mr Roberts, byddai wedi bod yn braf gweld un o adeiladau Capel Celyn yn cael ei ddiogelu yn Amgueddfa Sain Ffagan fel cofnod parhaol o hanes y pentref.
 
Esboniodd Gwyn y bu ymdeimlad o "frys" ac "argyfwng" wrth i'r pentref wagio.
 
"Mi oedd pob adeilad am gael ei chwalu'n llwyr - unwaith oedd y bobl wedi symud allan, roedd y jac-codi-baw yn mynd yn syth i mewn ac yn chwalu'r cyfan," meddai.
 
"Roedd ofn i unrhyw bren nofio ar arwyneb y dŵr a mynd i mewn i'r tyrbin ac achosi llanast, felly roedd yn rhaid i bob tamaid o bren a choeden gael eu dymchwel a'u llosgi.
 
"Mi oedd 'na frys, mae'n ymddangos, i chwalu popeth a doedd dim amser i wneud unrhyw beth gyda'r adeiladau neu gael gafael arnyn nhw."
 
Ychwanegodd: "'Swn i'n hoffi gweld adeilad o Gapel Celyn wedi ei hailadeiladu yn Sain Ffagan, ond dyw e ddim yn ddiwedd y byd - mae gennyn ni atgofion.
 
"Ond wedi ailfeddwl - buasai ail-adeiladu’r ysgol yn Sain Ffagan yn werthfawr i ddangos ein colled i rai sy’ ddim mor ymwybodol ag ydw i [o'r hanes]."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.