Athrawon heb 'ddigon o hyder' wrth ddysgu addysg rhyw

Disgyblion ysgol

Does gan athrawon ddim digon o hyder wrth ddysgu pynciau sensitif fel rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd a chydsyniad i'w disgyblion.

Dyna un o gasgliadau adroddiad Estyn sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd bod yna ddiffyg cysondeb yn y ffordd mae'r pynciau yma yn cael eu dysgu.

Byddai athrawon yn elwa o ddysgu mwy arbenigol, meddai'r corff arolygu.

Mae Estyn hefyd yn dweud bod angen edrych eto ar y ffordd mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn cael ei werthuso. Y duedd medden nhw yw edrych a gafodd sylw ei roi i'r pynciau yn hytrach na'r effaith ar agweddau a phenderfyniadau'r disgyblion.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n "buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ar Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb i bob ysgol i roi hyder a chysondeb ledled Cymru".

Mae ACRh yn bwnc gorfodol sydd yn cael ei ddysgu i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed. Y bwriad yw dysgu disgyblion am bethau fel rhywedd, perthnasoedd iach, llesiant ac iechyd rhywiol. 

Mae yna bethau cadarnhaol yn yr adroddiad. Mae'n nodi fod ACRh yn helpu llawer o blant a phobl ifanc i ddatblygu parch, dealltwriaeth a pherthnasoedd iach.

Fe aeth yr arolygwyr i 30 ysgol neu unedau cyfeirio disgyblion ar draws Cymru i edrych ar y sesiynau dysgu a'r gwasanaethau oedd ar gael. 

Datblygu dysgu 

Roedd lles, cynhwysiant a diogelu wrth wraidd gwaith nifer o'r ysgolion yr aeth Estyn i ymweld â nhw. 

Mae Estyn hefyd yn dweud fod y disgyblion yn mwynhau astudio'r pwnc ac yn falch o gael y cyfle i drafod pynciau sydd yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. 

Roedd nifer o'r ysgolion yn cynnig y cyfle i bobl ifanc archwilio themâu pwysig fel parch, emosiynau, teuluoedd amrywiol, hawliau plant, perthnasoedd iach ac afiach, rhagfarn a goddefgarwch.

Mae cydweithio gyda sefydliadau fel yr heddlu, gweithwyr iechyd a grwpiau yn y gymuned yn helpu ysgolion i ddelio gyda materion fel diogelwch ar-lein a pherthnasoedd sydd yn rhai dinistriol. 

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans:

“Mae ein canfyddiadau’n dangos bod llawer o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru wedi creu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol, lle gall plant a phobl ifanc ddysgu am berthnasoedd iach a theimlo’n ddiogel yn trafod materion sydd o bwys iddynt.

 “Fodd bynnag, mae anghysondebau o ran sut mae rhai agweddau mwy sensitif ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael eu haddysgu

"Wrth i blant a phobl ifanc dyfu, mae’n bwysig bod dysgu’n datblygu o ran manylder a chymhlethdod fel y gallant feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd fel oedolyn.

 “Trwy gryfhau dilyniant, buddsoddi mewn dysgu proffesiynol a sicrhau cefnogaeth gyson ledled Cymru, gallwn helpu pob dysgwr i elwa ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ansawdd uchel.”

Argymhelliad Estyn yw bod angen sicrhau dilyniant clir mewn ACRh a gwella ansawdd a chysondeb y dysgu. 

Maent hefyd yn dweud bod angen i gynghorau lleol, Dysgu sef y corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, Llywodraeth Cymru a gwasanaethau gwella ysgolion gynnig mwy o gefnogaeth, arweiniad ac arian ar gyfer y pwnc. 

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "croesawu" adroddiad Estyn.

"Rydyn ni’n croesawu adroddiad Estyn ac yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ar Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb i bob ysgol i roi hyder a chysondeb ledled Cymru," meddai'r llefarydd y Llywodraeth

"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i gefnogi eu hiechyd, eu lles a'u diogelwch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.