'Ased pwysig': Pafiliwn Pontrhydfendigaid ar werth am £350,000
Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion wedi mynd ar werth ar y farchnad agored, a hynny am £350,000.
Dywed yr hysbyseb gan gwmni arwerthwyr Morgan & Davies fod y gwerthiant yn "gyfle unigryw a phrin o fewn rhanbarth Gorllewin Cymru i sicrhau safle masnachol mor fawr sydd wedi cael ei ddefnyddio'n hanesyddol fel pencadlys Neuadd Pantyfedwen i'r Eisteddfod.
"Mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ac mae wedi chwarae rhan bwysig ym mhrif raglenni cymunedol Ceredigion gyda hyblygrwydd y gofod adeilad yn nodwedd nodedig."
Ychwanegodd yr hysbyseb: "Ystyrir bod gan yr adeilad botensial arallgyfeirio rhagorol ar gyfer defnyddiau masnachol neu barhau fel lleoliad cymunedol rhagorol."
Daw'r newyddion ar ôl i Bwyllgor Eisteddfod Pontrhydfendigaid, sydd yn rhedeg y Pafiliwn, gyhoeddi eu bwriad i'w werthu nôl ym mis Tachwedd 2025.
Digwyddiadau
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y pafiliwn ar ddiwedd mis Tachwedd y llynedd, dywedodd y pwyllgor eu bod am “barhau i gynnal digwyddiadau yn y pafiliwn yn 2026.
"Bydd y pafiliwn yn parhau i gael ei roi ar y farchnad agored er mwyn i’r pwyllgor fedru archwilio pob posibiliad wrth geisio dod o hyd i ddatrysiad hir dymor” meddai'r aelodau yn dilyn y cyfarfod.
Ar y pryd, dywedodd Efan Williams, Cadeirydd y Pwyllgor: “Dyma gyfle i ni gydweithio gyda’r gymuned leol i geisio dod i drefniant tymor byr sydd o fudd i bawb yn yr ardal, tra’n parhau i geisio dod o hyd i ddatrysiad tymor hir ar gyfer Pafiliwn Pontrhydfendigaid.”
Cyhoeddwyd bod yr adeilad ar werth ar y farchnad agored fore Mercher, gyda maint y pafiliwn yn 2,400 metr sgwâr a bod ganddo 7.3 erw o dir o’i amgylch.
Ychwanegodd yr hysbyseb arwerthu fod y neuadd yn dal lle i dros 2000 o bobl, gyda darpariaeth barcio ar gyfer dros 200 o geir, gyda "potensial ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol - masnachol, adloniant, busnes/gweithgynhyrchu, storio ac ati."
Mae'r neuadd yn "ased cymunedol pwysig", a'r cynnig yn un "unwaith mewn cenhedlaeth", meddai'r hysbyseb.