ASau yn codi pryderon am effaith bosib deddf dedfrydu ar weddw o Lanpumsaint
Mae ASau wedi codi pryderon am effaith bosib deddf dedfrydu ar weddw Aaron Jones o Lanpumsaint.
Bu farw Aaron Jones ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gar tra oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ddeuddydd cyn y Nadolig.
Cafodd corff Mr Jones ei ddarganfod ar dir yr eglwys leol ger Capel Bedyddwyr Caersalem, a bu farw'r dyn 38 oed yn y fan a'r lle.
Ym mis Mawrth eleni, fe gafodd Daniel Wyke o Gaerfyrddin ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am achosi ei farwolaeth.
Bythefnos yn ôl, fe dderbyniodd gweddw Aaron Jones, Lisa, lythyr oedd yn dweud y gallai dedfryd Daniel Wyke gael ei lleihau dan Ddeddf Dedfrydu 2026, meddai AS Plaid Cymru, Ann Davies.
Ychwanegodd na fydd Lisa Jones yn cael gwybod tan fis Awst a fydd Daniel Wyke yn gymwys i gael ei ryddhau'n gynnar.
Dan y Ddeddf Dedfrydu 2026, bydd "mwy o bwyslais" ar ryddhau carcharorion yn gynt os ydyn nhw'n ymddwyn yn dda.
Bydd pob troseddwr sydd wedi derbyn dedfryd safonol benodol yn treulio o leiaf draean o'u dedfrydau yn y carchar.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn disgwyl i'r rhan fwyaf o droseddwyr ar y dedfrydau hyn gael eu rhyddhau ar ôl treulio rhwng 33% a 50% o'u dedfrydau dan glo.
Nod y newidiadau hyn yw creu mwy o leoedd mewn carchardai, gyda 500 o leoedd ychwanegol yn unig wedi eu creu mewn carchardai dros y 14 mlynedd diwethaf.
'Gofid'
Wrth siarad yn San Steffan ddydd Iau, dywedodd Ann Davies AS fod y newidiadau hyn yn creu "mwy o ofid" i bobl fel Lisa Jones, sydd wedi colli aelodau o'u teulu.
"Ar 23 Rhagfyr 2024, lladdwyd fy etholwr, Aaron Jones, mewn gwrthdrawiad wrth gerdded ei gi. Cafodd y troseddwr ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar," meddai.
"Bythefnos yn ôl, derbyniodd ei weddw, Lisa, lythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei hysbysu am newidiadau i'w ddedfryd o dan Ddeddf Dedfrydu 2026 - ond y bydd yn rhaid iddi aros tan ddiwedd mis Awst i wybod a fydd y dyn a gymerodd fywyd ei gŵr yn cael ei ryddhau'n gynharach na'r disgwyl.
"A yw Arweinydd y Tŷ yn cytuno mai dim ond dod â mwy o ofid i deuluoedd dioddefwyr y mae'r ansicrwydd hwn yn ei wneud - ac a fydd yn caniatáu dadl i alw ar y llywodraeth i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu gyda'r sensitifrwydd gofynnol, a chyda diogelwch a lles y goroeswyr yn flaenoriaeth?"
'Newid diwylliannol'
Ymatebodd Arweinydd y Tŷ y byddai yn codi'r mater gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
"Rwy'n deall pa mor sensitif yw hyn a'r gofid y mae marwolaeth Mr Jones, ond hefyd yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny, a sut mae'n effeithio ar ei deulu.
"Mae'r rhain yn benderfyniadau anodd, ond rwy'n deall y pwynt am sicrwydd cyn belled â bod modd ei roi i deuluoedd. Rwy'n gobeithio bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi clywed hyn a byddaf yn ei godi'n uniongyrchol gyda nhw.
"Os yw'r foneddiges anrhydeddus yn ceisio trefnu dadl i glywed gan weinidog sut arall y gellir cryfhau hyn, rwy'n credu y byddai hynny'n briodol ond gadewch i ni fod yn glir bod angen i hyn fod yn rhan o bob proses, nid dim ond achosion unigol.
"Mae angen i hyn fod yn newid diwylliannol yn y ffordd rydym yn delio â'r materion hyn."
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Ann Davies AS ac Aelod o Senedd Cymru, Nerys Evans, fod angen i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrando ar ddioddefwyr a'u teuluoedd.
“Mae ein meddyliau'n parhau'n gadarn gyda Lisa Jones, ei theulu a chymuned Llanpumsaint, sy'n parhau i ddioddef galar trwm yn dilyn colli Aaron yn drasig ac yn sydyn," meddai'r ddwy ohonynt.
"Mae wynebu ansicrwydd nawr ynghylch dedfryd y dyn sy'n gyfrifol am ei farwolaeth yn ychwanegu at y gofid sydd eisoes yn ddirdynnol.
“Mae'n hanfodol bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrando ar ddioddefwyr a'u teuluoedd. Rhaid mynd ati gyda'r gofal a'r sensitifrwydd mwyaf mewn unrhyw benderfyniad i gwtogi dedfrydau mewn achosion o'r difrifoldeb hwn.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymateb.
