Arweinyddiaeth yr heddlu yng Nghymru a Lloegr 'angen ei ailwampio'n sylfaenol'

Heddlu

Nid yw arweinyddiaeth yr heddlu yng Nghymru a Lloegr o safon ddigon uchel yn gyson i ddarparu'r gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn ei haeddu yn ôl adolygiad annibynnol newydd. 

Dywedodd Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu, a gafodd ei sefydlu gan y Swyddfa Gartref, ei fod wedi darganfod sawl esiampl o arweinyddiaeth heddlu arbennig, ond ar y cyfan, mae'r system sy'n adnabod, datblygu a chefnogi arweinwyr yn "rhy wan" i ymdopi â heriau'r dyfodol. 

Mae'r adolygiad dan arweiniad yr Arglwydd Blunkett a'r Arglwydd Herbert o South Downs yn galw am ailwampio diwylliannol ar ôl canfod nad oedd gan fwy nag un o bob 10 cwnstabl a sarjant ymddiriedaeth yn yr arweinyddiaeth uwch eu pennau. 

Fe wnaeth yr adolygiad hefyd ganfod nad oedd gan fwy nag un rhan o bump o sarjants ac arolygwyr newydd hyfforddiant arweinyddiaeth ffurfiol ddwy flynedd i mewn i'r swydd.

Amser ac adnoddau

Mae'r adolygiad yn disgrifio methiant ar y cyd rhwng yr heddlu a sawl llywodraeth i fuddsoddi digon o amser, adnoddau a sylw i ddatblygu rolau arweinyddiaeth dros y degawdau. 

Mae'n galw am gyllid canolog i adfer hyn yn unol â gwasanaethau cyhoeddus eraill gan gynnwys y fyddin a'r Gwasanaeth Iechyd. 

Mae argymhellion y Comisiwn yn cynnwys recriwtio diwygiedig a hyfforddiant yn genedlaethol ar gyfer pob cwnstabl newydd ac Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth yr Heddlu i ddarparu datblygiad cyson ac o safon ar draws y lluoedd.

Fe gafodd Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu ei sefydlu ym mis Hydref 2025 ac fe gafodd tystiolaeth ei chlywed gan amryw o ffynonellau, gydag arolwg barn o bron i 2,000 o sarjants, arolygwyr a thrafodaethau gydag arbenigwyr, a mwy na 400 ymateb i alwad agored am dystiolaeth. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Syr Andy Marsh, prif weithredwr y Coleg Plismona: "Adroddiad heddiw yw'r archwiliad mwyaf cynhwysfawr o arweinyddiaeth yr heddlu mewn cenhedlaeth.

"Fe fyddwn ni'n gwneud y mwyaf o'r cyfle yma i fuddsoddi mewn swyddogion a staff gydag amser ac adnoddau fel bod modd iddynt wneud yr hyn y gwnaethon nhw ymuno â’r heddlu i’w wneud -  amddiffyn y cyhoedd a dal troseddwyr."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r pedwar llu heddlu yng Nghymru am ymateb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.