Arweinydd Reform yng Nghymru yn cefnogi aelod a gafodd ei wahardd rhag siarad yn y Senedd
Mae arweinydd Reform yng Nghymru wedi dweud bod ei phlaid yn cefnogi aelod a gafodd ei wahardd rhag siarad yn y Senedd, ar ôl iddo honni bod pobl wyn o Brydain yn cael eu disodli.
Cafodd Joe Martin, AS Reform UK, ei wahardd ddydd Mawrth ar ôl i'r Llywydd, Huw Irranca-Davies ddisgrifio ei sylwadau fel rhai “gwahaniaethol” a “sarhaus”.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner AS: “Mae Reform yn sefyll gyda Joe Martin”, gan ychwanegu: “Mae'n rhaid diogelu rhyddid i lefaru ar bob cyfrif.”
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Martin, yr Aelod o’r Senedd dros Gaerdydd Penarth: “Ga'i ddatganiad gan eich Llywodraeth am y newid demograffig sy’n arwain at ddisodli pobl wyn o Brydain yn y DU?
“Oherwydd mae graddfa’r newid wedi bod yn syfrdanol.
“Mae mewnfudo torfol a chyfraddau genedigaethau gwahanol yn golygu, ymhen 37 mlynedd yn unig, yn 2063, y byddwn yn leiafrif yn ein gwlad ein hunain.
“Mae’r newid hwnnw eisoes wedi digwydd yn Llundain, Birmingham, Caerlŷr, Slough, Luton a Manceinion, ac nid wyf am iddo ddigwydd yma.
“Yn wir, ar bob cyfle, mae mwyafrif yr etholwyr wedi dymuno gweld llai o fewnfudo er mwyn sicrhau bod eu cenedl yn cael ei diogelu.
“Nid parth economaidd yw cenedl, nid gwesty ydy hi, ac nid elusen ydy hi chwaith.
“Teulu ydy hi, sy’n gallu croesawu pobl o bob hil os ydy hynny'n cael ei wneud ar gyfradd synhwyrol, ond nid os caiff ei disodli’n llwyr.”
'Llywodraeth i bawb'
Fe wnaeth y Trefnydd Heledd Fychan AS ymateb drwy ofyn am ddyfarniad ynghylch a oedd y sylwadau’n cydymffurfio â rheolau’r Senedd.
“Mae gennym ddyletswydd tuag at bob un aelod o’r cymunedau rydym yn eu cynrychioli,” meddai.
“Rwy’n gwrthod rhaniadau a chasineb. Yn gynharach, cawsom gwestiwn i’r Prif Weinidog am wrthsemitiaeth.
“Ni allwn wahaniaethu rhwng pobl ar sail eu crefydd, eu rhywioldeb na lliw eu croen.
“Rydym yn Llywodraeth i bawb yma yng Nghymru, ac mae disgwyl i ni fod yn Senedd i bawb yma yng Nghymru.
“Rwy’n gwrthod yn llwyr y rhaniadau sy’n cael eu lledu gan yr aelodau hynny.”
Yn ddiweddarach, dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn ystyried sylwadau Mr Martin yn “ddiangen o bryfoclyd ac yn fwriadol sarhaus”.
“Er ei bod bob amser yn bosib codi materion polisi dilys mewn perthynas â mewnfudo yn y Siambr hon, roedd ffocws y cyfraniad hwnnw ar hil ac ethnigrwydd yn amlwg yn wahaniaethol, yn sarhaus, ac yn tynnu oddi ar urddas y Senedd,” meddai.
“Nid dyma’r tro cyntaf i’r aelod wthio’r ffiniau yn ei gyfraniadau, ac rwyf eisoes wedi’i rybuddio am ei ymddygiad.
“Hyd nes y byddaf yn cael arwydd clir bod yr aelod yn deall ffiniau ymddygiad seneddol derbyniol ac yn ymddiheuro i’r Siambr, ni fyddwn yn galw ar yr aelod i siarad.”
