Arweinydd ac aelodau cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiswyddo
Mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan, a’i gyd aelodau Llafur ar y cabinet wedi ymddiswyddo o’u rolau ddydd Gwener.
Fe gafodd y Cynghorydd Jason McLellan, sy’n cynrychioli ward Gogledd Prestatyn, yn arweinydd fis Mai 2022.
Fe fydd arweinydd newydd i’r cyngor ei cael ei ethol yng nghyfarfod llawn y cyngor ar ddydd Mawrth, 8 Medi. Wedi iddynt gael eu hethol, bydd yr arweinydd newydd yn gallu penodi aelodau i’r cabinet.
Roedd Llafur wedi bod yn rheoli y cyngor mewn clymblaid gyda Plaid Cymru.
Ond yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth aelodau Plaid Cymru o’r cabinet ymddiswyddo o’u rolau, gan ddweud “nad oes ganddyn nhw unrhyw hyder yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur mwyach”.
Roedd cabinet y cyngor yn cynnwys chwe chynghorydd Llafur a thri chynghorydd Plaid Cymru cyn hynny.
Mewn datganiad dywedodd y grwp Llafur bod y “cydbwysedd gwleidyddol yn Sir Ddinbych wedi newid” a bod “Grŵp Llafur yn cydnabod ac yn derbyn hyn”.
“Nid oes gennym fwyafrif cyffredinol, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n anos i’r cyngor wneud penderfyniadau a chyflawni gwaith,” meddai.
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Jason McLellan: “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i mi gan fod arwain Cyngor Sir Ddinbych dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd – yn aml wrth i ni wynebu heriau sylweddol.
“Er gwaetha’r pwysau yma, rwy’n falch iawn o’n hymdrechion i sicrhau ein bod wedi gallu darparu gwasanaethau i’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn enwedig i’r rheiny mewn addysg a gofal cymdeithasol. Fe fyddaf yn parhau i weithio’n galed i gynrychioli fy ward a chefnogi pobl Prestatyn.”
Bydd pob cyn aelod o’r cabinet yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd sir ar gyfer eu wardiau priodol.
Mewn datganiad dywedodd y cyngor: “Er bod y trefniadau gwleidyddol yn newid, bydd swyddogion yn parhau i weithio i ddarparu gwasanaethau i drigolion Sir Ddinbych.
“Mae prosesau llywodraethu’r cyngor yn caniatáu i fusnes barhau fel arfer tan y caiff cabinet newydd ei ffurfio.”
