Llifogydd Gwaelod-y-Garth: Trigolion yn dal i ddisgwyl am atebion fis ar ôl ffrwydrad chwarel
Mae trigolion Gwaelod-y-Garth yn dweud eu bod nhw’n dal i ddisgwyl am atebion fis ar ôl y trychineb a achosodd lifogydd yn eu cartrefi.
Cafodd cartrefi yn y pentref ar gyrion Caerdydd eu gorlifo ym mis Gorffennaf ar ôl ffrwydrad wedi’i gynllunio mewn chwarel gerllaw.
Cafodd trigolion eu symud o’u cartrefi ar ôl y ffrwydrad, ac mae llawer ohonyn nhw’n parhau i fyw mewn lletyau dros dro.
Wrth siarad ag ITV Cymru, dywedodd un o’r trigolion Mandy Symonds ei bod hi wedi “colli pethau na fydd byth yn cael eu hadfer”.
Dywedodd Mandy fod trigolion yn flin oherwydd y diffyg cyswllt wyneb yn wyneb a’r diffyg gwybodaeth gan Breedon Group, sy’n berchen ar safle’r chwarel.
“Ddylai hyn fyth, fyth fod wedi digwydd,” meddai. “Dyna pam rydyn ni i gyd mor gandryll.”
Mewn datganiad, dywedodd Breedon Group: “Rydyn ni’n parhau i gefnogi’r trigolion sydd wedi’u heffeithio ac yn trafod yn uniongyrchol ag Aelodau o’r Senedd a chynghorwyr lleol.
“Mae ymchwiliadau gan yr awdurdodau perthnasol yn parhau, felly nid yw’n briodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.”
Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) bod ei ymchwiliad cychwynnol yn awgrymu bod creigiau o’r ffrwydrad wedi mynd i mewn i waith hen fwynglawdd haearn a oedd dan ddŵr.
Fe wnaeth hynny wthio dŵr “sylweddol” allan drwy fynedfa i’r fwynglawdd.
Dywedodd un arall o drigolion y pentref, a oedd ar ei gwyliau pan ddigwyddodd y llifogydd, fod y digwyddiad wedi bod yn sioc iddi hi a’i theulu.
Dywedodd Jenna Rolls-Jones: “Fe ges i neges gan fy nghymdogion... ac allwch chi ddim credu beth sy’n digwydd mewn gwirionedd. Roedd mwd ym mhobman.
“Y cyfan rydyn ni eisiau ei wneud yw mynd adref a dychwelyd i fywyd arferol. Ond mae’n mynd i gymryd amser.”
Dywedodd Jenna wrth ITV News ei bod hi’n amau na fyddan nhw’n ôl yn eu tŷ tan fis Mai neu fis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Dywedodd hefyd ei bod hi’n siomedig na fydd y teulu’n treulio’r Nadolig gyda’u plant yn eu cartref.
“Y plant yn dod i lawr y grisiau, a gallu gosod eich coeden Nadolig, mae hynny i gyd wedi mynd,” meddai.
'Goblygiadau'
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud bod ei ymchwiliad i’r ffrwydrad yn parhau.
Mewn datganiad, dywedodd: “Rydyn ni’n cydnabod y pryder y mae’r digwyddiad hwn wedi’i achosi i drigolion lleol Gwaelod-y-Garth, yn enwedig y rhai sy’n byw yn agos at y chwarel.
“Fe wnaeth arolygwyr yr HSE ymweld â’r safle o fewn 24 awr ac maen nhw’n ymchwilio i achosion a goblygiadau’r digwyddiad hwn.
“Mae’r ymchwiliad yn parhau, tra bod Cyngor Caerdydd yn arwain ac yn cydlynu’r gwaith adfer.
“Mae ein canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod hwn yn ddigwyddiad unigol sy’n unigryw i’r chwarel hon a’i lleoliad, ac nad oes unrhyw oblygiadau uniongyrchol i waith chwarelau mewn lleoliadau eraill.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n parhau i gefnogi’r broses hon a’r gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan bartneriaid lleol i helpu’r gymuned i adfer.
“Rydyn ni wedi cael sicrwydd mai digwyddiad unigol oedd hwn ac nad oes disgwyl unrhyw effeithiau sylweddol na hirdymor o ran halogi (contamination).”