Pryder am lifogydd pellach ar ffin Nepal-Tsieina wrth i nifer y meirw gynyddu
Mae’r awdurdodau ar ffin Nepal a Tsieina yn rhybuddio fod ‘na risg o lifogydd pellach wrth i lefel y dŵr gynyddu mewn rhai mannau, ddyddiau’n unig ers i afonydd orlifo a lladd cannoedd.
Yn ôl Heddlu Nepal, mae timau achub yn parhau i chwilio am oroeswyr ond maen nhw wedi cael cyngor i symud i lecyn diogel ar unwaith lle fo bygythiad o lifogydd pellach.
Mewn diweddariad ddydd Gwener, dywedodd yr heddlu fod 547 o gyrff bellach wedi eu canfod.
Mae'n debyg bod bron i 1,000 o bobl yn parhau ar goll - yn eu plith mae dros 500 o dramorwyr, gan gynnwys degau o ddinasyddion Prydain.
Tarodd y llifogydd sydyn dinistriol ardal Rasuwa yn Nepal, sy’n ffinio â rhanbarth Tibet yn Tsieina, fore Mercher, gyda sawl afon yn gorlifo ac yn gorchuddio pentrefi â mwd brown, trwchus.
Rhybudd gorlifo pellach
Mae’r awdurdodau yn Tsieina yn dweud bod argae ar ochr Tibet y ffin wedi torri'n barod, gan gynyddu'r risg o lifogydd pellach.
Yn ôl Adran Adnoddau Dŵr Tsieina, mae disgwyl i dri miliwn metr ciwbig yn fwy o ddŵr lifo i ardal yr argae dros y tridiau nesaf.
Mae byddin Nepal hefyd wedi gyrru tîm i’r ffin i archwilio afon Bhotekoshi wrth i'r awdurdodau geisio delio gydag effaith ysgytwol y llifogydd gwreiddiol.
Gyda channoedd o bobl yn parhau ar goll, mae teuluoedd yn Nepal a thramor yn parhau i ddisgwyl i glywed os yw eu hanwyliaid yn ddiogel.
Mae’r ymdrechion i achub pobl wedi cael eu llethu gan faint y dinistr. Yn ôl awdurdodau Nepal, mae dros 25 milltir o ffyrdd wedi cael eu niweidio, yn ogystal â nifer o bontydd.
Yn siarad gyda Times Radio ddydd Gwener, dywedodd Rajesh Srivastava, pennaeth y Groes Goch Brydeinig yn Asia, bod y sefyllfa'n "heriol iawn" a bod y dinistr wedi effeithio ar isadeiledd hanfodol.
"Mae'r drychineb yn dal i ddatblygu," meddai.
"Mae'n ardal sy'n anodd iawn i'w chyrraedd, ond mae'n amlwg bod y gymuned wedi'i chwalu'n llwyr, teuluoedd wedi colli eu cartrefi a'u bywoliaethau, llawer o bobl wedi marw neu ar goll, a seilwaith hanfodol wedi cael ei ddifrodi."
Dywedodd Bishal Nath Upreti, llywydd canolfan rheoli trychinebau yn Nepal, fod y llifogydd fel “tswnami o’r awyr” a bod pentrefi cyfan wedi cael eu dinistrio.
Pobl ifanc ar goll
Gyda 33 o ddinasyddion Prydain dal ar goll, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig £5m i Nepal i help gyda’r sefyllfa.
Ymhlith y Prydeinwyr mae merch 13 oed a bachgen 14 oed. Mae’n debyg fod sawl un ar bererindod i Fynydd Kailash, safle pwysig i Hindŵiaid.
Prif lun: Reuters