Tywyn: Carcharu dyn a dagodd ei bartner

Karl Cormell
Mae dyn 44 oed wedi’i garcharu ar ôl iddo dagu ei bartner yn eu cartref yn Nhywyn yng Ngwynedd.
 
Ymddangosodd Karl Cormell, o Grasmere Avenue, Warrington, gerbron Llys y Goron Caernarfon ar 28 Awst i gael ei ddedfrydu ar ôl iddo gyfaddef yn flaenorol i ddau gyhuddiad o ymosod drwy guro a thagu’n fwriadol.
 
Ym mis Chwefror eleni, roedd Cormell yn dadlau gyda’i bartner yn eu cartref yn Nhywyn pan gydiodd yn ei gwddf a’i gwthio yn erbyn y wal.
 
Fe wnaeth o gadw'r ddynes yn ei hystafell wely yn erbyn ei hewyllys, ond fe lwyddodd hi i anfon neges at aelod o’r teulu i roi gwybod fod angen cymorth arni.
 
Gadawodd Cormell cyn i’r heddlu gyrraedd, ond cafodd ei arestio ychydig yn ddiweddarach.
 
Cafodd ei garcharu am 16 mis ac fe gafodd hefyd Orchymyn Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPO) am gyfnod o dair blynedd.
 
Dywedodd Arolygydd Ardal Iwan Jones: “Rwy’n canmol dewrder y dioddefwraig a’i chwaer a ddaeth i’w chynorthwyo yn ystod ei phrofiad brawychus.
 
“Yn unol â blaenoriaethau’r Heddlu, rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig.
 
“Anogir unrhyw un sy’n profi camdriniaeth, neu sy’n poeni am les rhywun arall, i gysylltu â ni. Byddwn yn gwrando, byddwn yn eich cefnogi a byddwn yn gweithredu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.