'Arweinwyr eglwys heb weithredu ar honiadau fod esgob wedi ymosod yn rhywiol ar blentyn' medd adroddiad
Fe wnaeth penaethiaid Eglwys yng Nghymru barhau i ddyrchafu cyn-esgob gyda'r Eglwys yng Nghymru er eu bod yn gwybod am honiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar blentyn yn ôl adroddiad newydd.
Fe gafodd Anthony Pierce ei garcharu am bedair blynedd y llynedd ar ôl cyfaddef i droseddau rhywiol yn erbyn bachgen dan 16 oed, a gyflawnwyd rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad plwyf yn ardal West Cross yn Abertawe.
Pan y gwnaeth Pierce gyfaddef i'r troseddau, fe aeth yr Eglwys yng Nghymru ati i adolygu'r modd y cafodd materion yn ymwneud â Mr Pierce eu trin yn y gorffennol.
Mae adolygiad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan yr Eglwys wedi dod i'r casgliad fod sawl aelod heb weithredu a mynegi eu pryderon pan y cafodd honiad o ymosodiad rhywiol ei wneud yn erbyn y cyn-esgob ym 1993.
Yn ôl yr adolygiad annibynnol, fe wnaeth Pierce yn honedig ymosod yn rhywiol ar fachgen 15 neu 16 oed o gwmpas 1990.
Fe wnaeth mam y bachgen adrodd am yr honiad i'r Esgob Dewi Bridges a'r Archddiacon Wynford Rees dair blynedd yn ddiweddarach.
Mewn cyfarfod diweddarach gyda Dewi Bridges, fe wnaeth Pierce gynnig ymddiswyddo. Yn hytrach nag adrodd i'r heddlu, fe wnaeth yr Esgob Bridges wrthod yr ymddiswyddiad, gan ddisgrifio'r honiadau yn ddiweddarach fel rhai "heb sail".
Ym 1995, fe wnaeth Dewi Bridges ddyrchafu Pierce i fod yn Archddiacon Gŵyr, ac ym 1999, fe gafodd ei ethol yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Dywed yr adolygiad fod uwch glerigion yn gwybod am honiadau o gam-drin rhywiol yn ei erbyn pan y cafodd ei benodi'n Archddiacon ym 1995 ac yna'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu ym 1999.
Ni chafodd yr honiadau hyn eu hadrodd i'r heddlu tan 2010.
O ganlyniad i hyn, fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru benodi Gabrielle Higgins i gynnal adolygiad.
O ganlyniad i ganfyddiadau'r Tribiwnlys, mae Esgob Abertawe ac Aberhonddu, y Gwir Barchedig John Lomas, wedi diorseddu Mr Pierce o'r urddau sanctaidd ac nid yw mwyach yn yr offeiriadaeth yn yr Eglwys yng Nghymru.
'Dim lle i unrhyw fath o gamdriniaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Mae'r Eglwys yng Nghymru yn benderfynol o ddangos bod yma le diogel, a bod unrhyw un sy'n codi pryder yn cael ei gymryd o ddifrif, ei drin yn dosturiol, a'i ystyried yn unol â'r safonau cyfredol uchaf.
"Os yw dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth wedi cael eu hesgeuluso gan ein pobl a'n prosesau yn y gorffennol, rydym yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb am y ffaith honno a chymhwyso'r gwersi sydd wedi'u dysgu yn llawn.
"Does dim lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ofal ac amddiffyn plant ac i bobl agored i niwed yn ein cymunedau.
"I'r perwyl hwn, rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelu yn rheolaidd ac yn darparu hyfforddiant helaeth i staff a gwirfoddolwyr".
'Ymddiheuriadau mwyaf didwyll'
Wrth ymateb i'r adolygiad, dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedig Cherry Vann: "Rhaid i ni roi’r flaenoriaeth eithaf bob amser i les dioddefwyr camdriniaeth, ac rydym am estyn ein hymddiheuriadau mwyaf didwyll i'r rhai sydd wedi cael eu methu gan yr Eglwys yn y gorffennol.
"Rwyf am ddiolch i Gabrielle Higgins am ei gwaith trylwyr a chydwybodol ar yr adolygiad hwn.
"Mae wedi mynd ati i archwilio’n drylwyr i faterion cymhleth ac anodd sy'n mynd yn ôl ddegawdau lawer. Rydym yn ddyledus iddi am y ffordd gwbl broffesiynol y mae hi wedi ymdrin â'r dasg heriol hon.
"Mae'r adolygiad yn dangos yn fanwl boenus y cyfleoedd a gollwyd, y rhagdybiaethau niweidiol a'r prosesau annigonol a oedd yn nodweddu ymateb yr Eglwys i'r honiadau hyn o gam-driniaeth am yn llawer rhy hir.
"Mae’r catalog hwn o fethiannau yn sicr yn destun cywilydd i'r Eglwys a bydd wedi achosi trawma pellach i’r rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth a'u teuluoedd."
'Trawma'
Ychwanegodd y Gwir Barchedig John Lomas: "Mae'r trawma i ddioddefwyr camdriniaeth yn yr Eglwys yn gymaint gwaeth oherwydd i’w hymddiriedaeth gael ei chwalu’n llwyr yn sgil methiannau'r Eglwys fel sefydliad, fel y gwelwyd yn yr adolygiad hwn.
"Er nad oes dim yn y byd a all gywiro camgymeriadau'r gorffennol, ac na allwn ond ymddiheuro’n llwyr ac yn ddiffuant am y methiannau sydd wedi dod i’r golwg yn yr adolygiad hwn, hyderwn y bydd yr adolygiad yn dangos ein bod yn benderfynol o fod yn glir a chadarn yn ein bwriad i sicrhau na all y fath bethau fyth ddigwydd eto."