Arolwg: Plaid Cymru i orfod rhannu grym gyda Llafur?
Mae arolwg barn newydd yn awgrymu y byddai'n rhaid i Blaid Cymru gael eu gorfodi i rannu grym gyda Llafur er mwyn llywodraethu yng Nghymru.
Mae’r arolwg gan gwmni More in Common, yn rhoi Plaid Cymru ychydig ar y blaen i Reform UK i fod y blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl yr etholiad ar 7 Mai.
Mae'r arolwg yn awgrymu na all Plaid Cymru sicrhau mwyafrif er mwyn gallu llywodraethu yn effeithiol. Yr awgrym yw y gallai fod angen cytundeb gyda Llafur Cymru er mwyn llywodraethu. Mae Llafur yn blaid sydd wedi bod mewn grym ers dros chwarter canrif.
Yn ôl arolwg cyntaf More in Common ar gyfer yr etholiad hwn, sy’n seiliedig ar dros 2,500 o ymateb dros 2,500 o bobl ledled Cymru, fe fydd Plaid Cymru a Reform yn ennill 25% o'r bleidlais, Llafur ar 21%, y Ceidwadwyr ar 11%, y Blaid Werdd ar 10%, a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%.
Maen nhw'n rhagweld y byddai Plaid Cymru yn ennill 30 sedd, Reform 28, a Llafur Cymru 24. Fe fydd cyfanswm o 96 o seddi angen eu llenwi ar gyfer tymor nesa'r Senedd.
Y darogan yw y bydd y Gwyrddion yng Nghymru yn ennill pedair sedd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, tair sedd. Mae'r ddwy blaid eisoes wedi dweud eu bod yn agored i drafodaethau gyda Phlaid Cymru os daw hi’r blaid fwyaf.
Ond mae’r arolwg yn awgrymu mai cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur allai fod yr unig ffordd realistig o ffurfio llywodraeth, gyda 49 sedd yn angenrheidiol ar gyfer mwyafrif.
Mae’r ddwy blaid wedi cydweithio o’r blaen mewn clymblaid, ac mae Plaid Cymru hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â llywodraeth Lafur ar sawl maes polisi.
Fe adawodd Plaid Cymru eu partneriaeth ddiweddaraf yn 2024. Maen nhw wedi canolbwyntio eu hymgyrch ar “arweinyddiaeth newydd” i Gymru, gyda’r nod o “ddisodli” Llafur.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod Reform ar fin gwneud enillion sylweddol ledled y wlad, yn enwedig yng Nghymoedd y de.
Yn y cyfamser, mae'r arolwg yn rhagweld y bydd Ceidwadwyr Cymru - sef yr wrthblaid swyddogol ar hyn o bryd - yn disgyn i’r pedwerydd safle, gan ennill saith sedd yn unig.
'Dechrau'n anodd'
Dywedodd Luke Tryl o More in Common UK: “Mae’n anodd credu bod etholiad cyffredinol 2024 lai na dwy flynedd yn ôl - mae’r dirwedd wleidyddol wedi newid yn sylweddol ers buddugoliaeth Llafur yng Nghymru.
“Ar ôl 28 mlynedd mewn grym, mae Llafur ar fin syrthio i’r trydydd safle - ac am y tro cyntaf, gallai Cymru gael ei harwain gan brif weinidog nad yw o'r blaid Lafur.
“Plaid Cymru sydd ar y brig yn yr arolwg, mewn gwlad sy’n barod am newid, a gallent fod ar fin arwain llywodraeth am y tro cyntaf.
“Ond gallai’r dechrau fod yn anodd - efallai y bydd angen rhannu grym gyda Llafur, sydd er ei cholledion yn dal i fod yn ddylanwadol.”
Ychwanegodd fod disgwyl i lwyddiant Reform hefyd fod yn stori allweddol ar ôl yr etholiad: “Mae eu cefnogaeth yn ymestyn ar draws Cymru gyfan - o’r Cymoedd i Gaerdydd a’r gogledd-ddwyrain - gan ddisodli’r Ceidwadwyr fel prif blaid yr asgell dde.”
Cafodd 2,519 o bobl o oedran pleidleisio eu holi rhwng Ionawr ac Ebrill eleni.