Yr Arlywydd Trump yn galw ar y DU i anfon llongau i Gulfor Hormuz

Ynys Kharg

Mae Donald Trump wedi galw ar wledydd eraill, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, i anfon llongau i Gulfor Hormuz.

Ar ei blatfform digidol, Truth Social, galwodd yr Arlywydd Trump ar wledydd China, Japan, De Corea a'r Deyrnas Unedig i anfon llongau at Gulfor Hormuz er mwyn galluogi llongau sy'n cario olew i adael y Dwyrain Canol.

"Bydd sawl gwlad, yn enwedig y rhai sydd wedi eu heffeithio gan ymgais Iran i gau Culfor Hormuz, yn danfon Llongau Milwrol, ar y cyd ag Unol Dalethiau America er cadw'r culfor yn agored ac yn ddiogel," meddai.

Wrth alw ar wledydd eraill i wneud yr un peth, dywedodd: "Yn y cyfamser, bydd yr Unol Daleithiau yn bomio'r arfordir gan saethu cychod a llongau Iran. 

"Un ffordd neu'r llall, fe fyddwn yn agor Culfor Hormuz yn ddiogel a rhydd!"

Ynys Kharg

Daw hyn ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau ddatgan eu bod nhw wedi taro canolfannau milwrol ond wedi osgoi taro seilwaith olew hanfodol ar Ynys Kharg.

Mae Ynys Kharg yn ddarn o dir pum milltir o hyd yng Ngwlff Persia sy’n trin tua 90% o allforion olew crai Iran.

Daw hyn wrth i’r Pentagon gyhoeddi y bydd y milwyr cyntaf yn cael eu hanfon i faes y gad yn y Dwyrain Canol.

Dywedodd swyddogion y Pentagon eu bod nhw’n bwriadu gyrru uned sy’n cynnwys tua 2,500 o fôr-filwyr a morwyr.

Nid yw’n glir eto i ble yn union y byddant yn cael eu hanfon, wrth i’r Unol Daleithiau ymdrechu i ail-agor Culfor Hormuz rhwng Iran ac Oman sy’n hollbwysig i gludo 20% o olew y byd.

Mae gwledydd wedi ymateb drwy ryddhau cronfeydd olew wrth gefn.

Wrth i'r farchnad gau ddydd Gwener, roedd prisiau olew byd-eang ar eu lefel uchaf ers mis Gorffennaf 2022, wrth i bryder ynghylch cau’r culfor barhau ar draws marchnadoedd y byd.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, fod yr UDA wedi bomio “pob targed milwrol” ar Ynys Kharg a dywedodd y byddai hefyd yn ymosod ar ei seilwaith olew os bydd Iran yn parhau i rwystro llongau rhag teithio drwy Gulfor Hormuz.

Ychwanegodd ddydd Gwener ei fod yn credu y bydd llynges yr UDA yn dechrau hebrwng tanceri drwy’r culfor “yn fuan”.

Roedd Llefarydd Senedd Iran, Mohammad Baqer Qalibaf, wedi rhybuddio’n gynharach y byddai’r wlad yn “rhoi’r gorau i ddal yn ôl” os oedd unrhyw ymosodiad Americanaidd ar ynysoedd Iran.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.