Arian i ail-ddatblygu cyn feysydd glo yng Nghymru

Parc busnes

Mae dwy ardal yng Nghymru ymysg cyn-feysydd glo sydd wedi cael cyfran o £13.5m â’r nod o roi bywyd newydd i gymunedau sydd “wedi cael eu hanwybyddu ers degawdau”, yn ôl y Canghellor Rachel Reeves.

Mae Resolfen a Blaendulais yng Nghastell-nedd Port Talbot ymysg chwe lleoliad ar draws y DU a fydd yn cael cyllid i adeiladu datblygiadau diwydiannol newydd i fusnesau bach a chanolig.

Mae swyddogion y Trysorlys yn gobeithio y bydd yr arian yn helpu entrepreneuriaid sydd am ddechrau eu cwmni eu hunain neu ehangu yn eu hardal leol, medden nhw.

Ym mharc busnes Cwm Nedd yn Resolfen, y nod yw y bydd yr arian yn ariannu datblygiad 30,000 troedfedd sgwâr unwaith y bydd y safle wedi cael ei brynu, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Ym mharc busnes Nant y Cafn ym Mlaendulais, bydd yr arian yn ariannu datblygiad 45,000 troedfedd sgwâr unwaith y bydd y safle wedi cael ei brynu, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Dywedodd y Canghellor: “Mae’r ardaloedd hyn wedi cael eu hanwybyddu ers degawdau, gan golli talent yn barhaus yn sgil dirywiad hir. 

“Mae ein buddsoddiad mewn datblygiadau diwydiannol newydd yn un ffordd o’u gwneud yn gyrchfannau cryfach i fusnesau, lle mae swyddi a chyfleoedd yn cael eu creu, nid eu gwastraffu.

“Os ydych chi’n berson busnes mewn ardal cyn-faes glo ac am ddechrau eich busnes eich hun – neu eisoes yn berchennog busnes yno ac am ehangu eich cwmni – rydym am eich cefnogi.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: “O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn, bydd pobl a busnesau mewn cymunedau cyn-feysydd glo yn ne Cymru yn cael gwell mynediad at y swyddi a’r cyfleoedd maen nhw’n eu haeddu.

“Am gyfnod rhy hir, mae’r cymunedau hyn wedi cael eu gadael ar ôl – gyda llawer o bobl wedi gorfod gadael eu hardaloedd lleol i chwilio am waith mewn mannau eraill.

“Mae Llywodraeth y DU yn gweithredu i atal y cylch hwn, drwy gyflawni swyddi, ffyniant a thwf ledled Cymru. Rydym yn cefnogi ein cymunedau glofaol â’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, gan helpu busnesau lleol i ffynnu, a sicrhau bod ein cymunedau glofaol yn elwa ar economi gryfach a thecach yn y DU.”

Bydd hanner yr arian yn dod o gronfa dwf £240 miliwn y Llywodraeth, a gafodd ei chyhoeddi y llynedd, a’r hanner arall yn dod gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, elusen sy’n ceisio creu swyddi mewn cymunedau oedd yn rhai glofaol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.