Arestio un yng Nghaerdydd wedi ciwiau mawr y tu allan i siop watsiau

Siop Swatch Caerdydd

Fe gafodd un dyn ei arestio yng Nghaerdydd wedi tyrfaoedd mawr y tu allan i siop sy’n gwerthu watsiau.

Mae’r adwerthwr watsiau mawr Swatch wedi ymateb i bryderon diogelwch ledled y DU ar ôl i dyrfaoedd enfawr dyrru i ganolfannau siopa.

Mae pobl wedi bod mewn ciwiau ar gyfer lansiad oriawr boced £335 newydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ganolfan siopa Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd ar ôl adroddiadau bod tua 300 o bobl yn ceisio mynd i mewn i siop Swatch am 6.20am ddydd Sadwrn, meddai Heddlu De Cymru.

Cafodd dyn 25 oed o Bengam yng Nghwm Rhymni ei arestio a’i gyflwyno â hysbysiad gwasgaru dan Adran 35, meddai’r llu.

Ym Manceinion Fwyaf cafodd yr heddlu eu galw ddydd Sadwrn i siop Swatch yng Nghanolfan Trafford ac fe gafodd y siop ei chau'r diwrnod hwnnw ac ar y dydd Sul ar ôl i ugeiniau o bobl giwio. 

Roedd fideos a gafodd eu postio ar-lein yn dangos tyrfaoedd enfawr mewn sawl canolfan siopa ledled y DU, gyda’r heddlu yn cadw trefn.

Lansiodd Swatch Gasgliad Audemars Piguet x Swatch Royal Pop ddydd Sadwrn mewn siopau dethol ledled y byd, yn ôl gwefan y cwmni.

Mae’r gwerthiant wedi’i gyfyngu i un oriawr y pen, y dydd, ac ym mhob siop.

'Gwasgaru pobl' 

Dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf eu bod nhw wedi mynd i Ganolfan Trafford yn y ddinas a “gwasgaru nifer fawr o bobl”.

Postiodd Swatch neges ar Facebook ddydd Sadwrn gan ddweud eu bod “wrth ystyried diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff” wedi cau siopau yn Lerpwl, Manceinion, Birmingham, Sheffield, Glasgow a Chaerdydd, ynghyd â holl siopau Llundain.

“Er mwyn sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff yn siopau Swatch, rydym yn gofyn yn garedig i chi beidio â rhuthro i’n siopau mewn niferoedd mawr i brynu’r cynnyrch hwn,” medden nhw.

“Bydd Casgliad Royal Pop yn parhau i fod ar gael am sawl mis. Mewn rhai gwledydd, ni ellir derbyn ciwiau o fwy na 50 o bobl, ac efallai y bydd angen atal y gwerthiant.”

Postiodd y cwmni eto ddydd Sul gan ddweud y byddai siop Manceinion ar gau am y diwrnod “oherwydd ystyriaethau diogelwch”.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Cafodd Heddlu De Cymru ei alw am 6.20am ddydd Sadwrn, 16 Mai, wedi i grŵp o tua 300 o bobl geisio mynd i mewn i ganolfan siopa Dewi Sant 2.

“Cafodd dyn 25 oed o Bengam ei arestio a’i gyflwyno â hysbysiad gwasgaru Adran 35 gyda’r amod na ddylai fynd i mewn i Ganol Dinas Caerdydd eto yn ystod dydd Sadwrn, 16 Mai.”

Cafodd Heddlu Manceinion Fwyaf ei alw ychydig cyn 6am ddydd Sadwrn “ar ôl adroddiadau am aflonyddwch yng Nghanolfan Trafford”, meddai llefarydd.

Dywedodd y llu: “Aeth swyddogion yno ac, ochr yn ochr â staff diogelwch, fe wnaethon nhw wasgaru nifer fawr o bobl oedd y tu mewn i’r ganolfan.

“Ni chafodd unrhyw arestiadau eu gwneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.