Arestio mwy na 500 mewn protestiadau yn Llundain
Mae mwy na 500 o bobl wedi cael eu harestio yn ystod protest yng nghanol Llundain yn erbyn y gwaharddiad ar y grŵp Palestine Action.
Dywedodd Heddlu'r Met bod 523 o bobl rhwng 18 ac 87 oed wedi cael eu harestio am ddangos cefnogaeth i’r grŵp gwaharddedig yn ystod y brotest yn Sgwâr Trafalgar.
Fe wnaeth cannoedd o brotestwyr ymgynnull yn y Sgwâr brynhawn Sadwrn gydag arwyddion yn dweud 'Rwy’n gwrthwynebu lladdfa. Rwy’n cefnogi Palestine Action’.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met: “Rydym yn ddiolchgar i'r holl swyddogion a gymrodd ran am eu proffesiynoldeb.”
Ychwanegodd y llu nad oedd angen cymorth meddygol ar unrhyw un o’r protestwyr a gafodd eu cario o’r brotest.
Dywedodd Tom Southerden o Amnesty International UK: “Mae arestio protestwyr heddychlon yn Sgwâr Trafalgar heddiw o dan gyfraith derfysgol y DU yn ergyd arall i ryddid sifil yn y wlad hon.”
