Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Rhosllanerchrugog
Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â marwolaeth mewn pentref ger Wrecsam.
Cafodd ymchwiliad ei lansio ar ddechrau mis Mehefin ar ôl i ddyn 38 oed ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad ar Stryd y Farchnad yn Rhosllanerchrugog ychydig cyn hanner nos ddydd Gwener, 5 Mehefin.
Bu farw'r dyn yn yr ysbyty ddydd Mercher, 17 Mehefin.
Roedd dyn lleol 37 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad.
Ers hynny, mae'r dyn 37 oed hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae’n parhau i fod dan ofal yr heddlu, lle mae’n cael ei holi gan swyddogion.
Mae teulu’r dyn a fu farw a’r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad.
Mae’r Prif Dditectif Arolygydd Eleri Thomas yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu â’r heddlu.
"Hoffwn dawelu meddyliau trigolion fod hwn yn ymddangos fel digwyddiad ynysig, ac mae ymchwiliadau helaeth yn parhau er mwyn sefydlu amgylchiadau marwolaeth y dyn," meddai mewn datganiad.
"Rwyf hefyd yn annog pobl i beidio â chyhoeddi unrhyw beth ar-lein a allai ddylanwadu unrhyw achos llys yn y dyfodol neu danseilio’r broses cyfiawnder troseddol.
"Mae fy meddyliau’n parhau gyda’i deulu ar yr adeg anodd hon."
