Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwoleth menyw yng Nghil-y-Coed

Cil-y-Coed

Mae Heddlu Gwent wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i gorff menyw 52 oed gael ei ddarganfod yng Nghil-y-Coed.

Aeth swyddogion i dŷ yn Green Lane yn y dref yn Sir Fynwy am tua 03:00 fore dydd Iau gyda pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Cafwyd cadarnhad fod menyw wedi marw yno ac mae ei theulu wedi cael gwybod am y newyddion.

Maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae dyn 50 oed o Gil-y-Coed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Clarke o Heddlu Gwent fod swyddogion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i darganfod amgylchiadau marwolaeth y fenyw.

"Rydym yn deall y gall adroddiadau o'r math yma achosi pryder, ond rydym wedi arestio dyn o'r ardal yr oedd y dioddefwr yn ei hadnabod, ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn," meddai.

"Efallai y bydd trigolion yn gweld nifer cynyddol o swyddogion yn yr ardal wrth i ni gynnal ymholiadau pellach. Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i siarad ag un o'n swyddogion, neu gysylltu â ni ar y sianeli arferol."

Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd yn byw ar Green Lane a Ffordd Cefn Mawr oedd efallai wedi clywed unrhyw beth amheus yn oriau mân fore dydd Iau i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600174602.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.