Arestio dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddio wedi marwolaeth dyn yn Y Trallwng
Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi marwolaeth dyn yn Y Trallwng, Powys.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys a'r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i Stryd yr Eglwys yn y dref am 01.16 ddydd Sul yn dilyn adroddiad am ddyn wedi'i anafu yno.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae'r dyn 22 oed sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae ffyrdd ar gau ar hyd Stryd yr Eglwys tra bod swyddogion yn cynnal ymholiadau.
"Bydd swyddogion heddlu ychwanegol yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i'r ymchwiliad barhau."
Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r llu.