Cyn ymgynghorydd Llafur yng Nghymru ymhlith tri sydd wedi eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ysbïo dros Tsieina
Mae gŵr AS Llafur sy'n gyn ymgynghorydd i wleidyddion Llafur yng Nghymru ymhlith tri sydd wedi eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwilio i ysbïo ar ran Tsieina.
Fe ddywedodd Heddlu'r Met fore Mercher fod tri dyn wedi eu harestio ar amheuaeth o ysbïo ar ran Tsieina, a dau ohonyn nhw yng Nghymru.
Dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 68 oed ym Mhowys a dyn 43 oed ym Mhontyclun wedi eu harestio.
Maen nhw hefyd wedi arestio dyn 39 oed mewn cyfeiriad yn Llundain.
Fe gafodd y tri dyn eu harestio ddydd Mercher ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cuddwybodaeth o dramor, yn groes i adran 3 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, 2023.
Dywedodd Heddlu'r Met mai Tsieina yw'r wlad y mae'r ymchwiliad yn ymwneud â hi.
Mae un o'r tri sydd wedi eu harestio yn wr i AS Llafur dros Ddwyrain Kilbride and Strathaven, Joani Reid.
Mae David Taylor yn gyn ymgynghorydd gwleidyddol i Peter Hain, cyn-Ysgrifennydd Cymru, ac roedd yn ymgeisydd ar gyfer swydd Comisiynydd yr Heddlu Gogledd Cymru yn 2016.
Dywedodd yr AS Llafur Joani Reid: "Dwi erioed wedi gweld unrhyw beth sydd wedi fy ngwneud i'n amheus fod fy ngŵr i wedi torri'r gyfraith."
Ychwanegodd nad oedd hi "erioed wedi bod i Tsieina. Dwi erioed wedi siarad ar faterion ymwneud â Tsieina yn Nhŷ'r Cyffredin. Dwi erioed wedi gofyn cwestiwn ar faterion yn ymwneud â Tsieina".
"Nid wyf yn rhan o weithgareddau busnes fy ngŵr ac nid wyf i na fy mhlant yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ac ni ddylem gael ein trin gan sefydliadau y wasg fel pe baem," meddai.
"Yn fwy na dim, rwy'n disgwyl i sefydliadau yn y wasg barchu preifatrwydd fy mhlant.”
'Ymyrraeth'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diogelwch Dan Jarvis ddydd Mercher y byddai yna "oblygiadau difrifol" pe bai'n cael ei brofi fod Tsieina wedi ceisio ymyrryd â materion y DU.
Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn "ymwneud â Tsieina" a "ymyrraeth dramor yn targedu democratiaeth y DU".
Dywedodd Pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain Helen Flanagan: "Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ein gwaith yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol dros y blynyddoedd diweddar, ac rydym yn parhau i weithio yn agos iawn â'n partneriaid i gadw ein gwlad yn ddiogel.
"Mae'r datblygiad heddiw yn rhan o ymchwiliad rhagweithiol ac er fod rhain yn faterion difrifol, nid ydym ni'n credu bod bygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd yn ymwneud â hyn."
Ychwanegodd y llu fod y tri yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae swyddogion heddlu yn parhau i chwilio yn y cyfeiriadau ble y cafodd y tri eu harestio.
Fel rhan o'rymchwiliad, mae swyddogion hefyd wedi bod yn chwilio mewn cyfeiriadau eraill hefyd, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Llundain a Dwyrain Kilbride.
Mae ymholiadau yn parhau yn ôl y llu.
