Arestio dau ddyn arall ar ôl ‘digwyddiad difrifol’ yn Abertawe nos Wener
Mae dau ddyn arall wedi’u harestio ôl i'r heddlu ddatgan "digwyddiad difrifol" yn ardal Treforys, Abertawe, nos Wener.
Dywedodd Heddlu De Cymru nos Fawrth fod y dynion, sy’n 24 a 42 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae dyn 41 oed a bachgen 16 oed, a gafodd eu harestio’n flaenorol mewn cysylltiad â’r digwyddiad, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe wnaeth Thomas Gilheaney, 29 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun wedi’i gyhuddo o affräe a bod ag arf yn ei feddiant.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr.
Mae ditectifs o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad a ddigwyddodd am tua 16.15 ddydd Gwener.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, yn enwedig modurwyr a oedd yn teithio ar hyd Heol Clase, Heol Samlet, Ffordd Goedwig Uchaf neu Ffordd y Cwm rhwng 16.15 a 16.30 ddydd Gwener.
Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd Ffordd y Cwm rhwng hanner dydd a 13.30.
Dylai modurwyr gyflwyno unrhyw luniau o’u camerâu dangosfwrdd, hyd yn oed os nad oedden nhw wedi gweld y digwyddiad ei hun neu wedi sylwi ar unrhyw beth anarferol ar y pryd, meddai'r heddlu.
Mae modd cyflwyno lluniau o gamerâu dangosfwrdd, teledu cylch cyfyng neu ffonau symudol drwy Borth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr yr heddlu.
