Arddangos cadair arall gan grefftwr y Gadair Ddu yn Yr Ysgwrn

Cadair Castell-nedd 1918 a Chadair Ddu Hedd Wyn

Bydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918 yn cael ei harddangos yn Yr Ysgwrn ochr yn ochr â Chadair Ddu enwog Hedd Wyn, wedi iddi ddod i'r amlwg fod y ddwy gadair wedi eu creu gan yr un dylunydd. 

Y crefftwr a’r ffoadur o Wlad Belg Eugene Van Fleteren wnaeth ddylunio cadair Genedlaethol 1918, a gafodd ei hennill gan y bardd a’r gweinidog J. T. Jôb.

Ef hefyd oedd dylunydd Cadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917, a gafodd ei hennill gan Ellis Humphrey Evans, sef Hedd Wyn. 

Wedi iddo gael ei gonsgriptio yn 1916, bu farw Hedd Wyn ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917 yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ger Lerpwl yn Lloegr chwe wythnos yn ddiweddarach gyda’i gerdd, Yr Arwr. 

Hyd yn ddiweddar ychydig iawn oedd yn gwybod am fodolaeth ail gadair Genedlaethol gan Eugene Van Fleteren, y crefftwr a greodd Gadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917.

Mae hyn yn golygu fod Van Fleteren nid yn unig wedi cynllunio a saernïo’r Gadair Ddu, ond iddo hefyd greu ail gadair Genedlaethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd y flwyddyn ganlynol.  

Roedd Eugene Van Fleteren yn ffoadur rhyfel o Wlad Belg a symudodd i Benbedw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan sefydlu gweithdy dodrefn llwyddiannus. 

Cafodd dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg eu croesawu i Gymru yn ystod y rhyfel. 

Cafodd cadair 1918 ei dyfarnu i J. T. Jôb am ei awdl fuddugol “Eu Nêr a Folant” yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd.

Daeth hanes y gadair i'r amlwg wedi ymweliad gan Dafydd Jôb, ŵyr y bardd, â'r Ysgwrn, gan ddatgelu fod y gadair wedi aros ym meddiant y teulu. 

Bydd yr arddangosfa yn agor ar 1 Mehefin ac yn parhau yn Yr Ysgwrn tan yr hydref. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.