Apêl am wybodaeth wedi i yrrwr car farw yng Ngheredigion
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi i yrrwr farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion bnawn dydd Mawrth.
Cafodd swyddogion eu galw am tua 18:10 yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A44 rhwng Capel Bangor a Goginan.
Un car yn unig, sef VW Golf gwyn, oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Roedd y car yn teithio i gyfeiriad y dwyrain am Oginan pan aeth oddi ar y ffordd.
Bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle meddai'r heddlu.
Mae eu teulu wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig i wneud hynny.
Nid oedd unrhyw deithiwr arall yn y car ar y pryd ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy'r ffyrdd arferol gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260505-303.