Apêl o'r newydd mewn ymchwiliad i lofruddiaeth ger Wrecsam
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ehangu eu hapêl am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn 49 oed yn Wrecsam.
Cafodd ymchwiliad llofruddiaeth ei lansio yn dilyn marwolaeth Linas Buta mewn tŷ yn ardal Bryn Glas o Rosllannerchrugog ar ddydd Gwener, 27 Mawrth.
Y gred yw bod Mr Buta wedi bod mewn ffrae gorfforol am tua 12:00 ar ddydd Iau, 26 Mawrth ym Maes Parcio Bonc Wen yn Rhos.
Mae'r Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney wdi gofyn am ragor o wybodaeth gan gynnwys apêl am dystion a lluniau dash-cam.
Dywedodd: “Rydym yn gobeithio siarad ag unrhyw un oedd yn ardal Maes Parcio Bonc Wen... ar ddydd Iau 26 Mawrth rhwng 12:00 a 12.15, neu unrhyw un a oedd â cherbyd wedi'i barcio yn y maes parcio gyda chamera dash-cam.
“Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un â chamera dash-cam a oedd yn gyrru ar hyd Ffordd Wrecsam yn Rhostyllen ar ddydd Iau, 26 Mawrth rhwng 12:00 a 13:00 i gysylltu.
“Rwy’n gofyn i’r gymuned barhau i gefnogi swyddogion wrth iddynt wneud yr ymholiadau angenrheidiol hyn.
“Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu Linas yn ystod yr amser anodd hwn.”
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod O045989.