Apêl codi arian i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad wedi cyrraedd £17,000

Elis Alan Ogilvy-Bardsley

Mae ymgyrch codi arian i helpu teulu dyn 20 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pwllheli dros y penwythnos wedi cyrraedd dros £17,000 mewn ychydig ddyddiau yn unig.

Roedd Elis Alan Ogilvy-Bardsley yn byw ym Mhwllheli gyda'i fam, ei dad, ei chwaer iau a'i frawd.

Bu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr tua 22.10 nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Ford Fiesta du ac Audi A3 coch.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Mr Ogilvy-Bardsley yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu.

Mewn neges ar yr apêl codi arian ar wefan JustGiving, dywedodd ewythr Elis, Danni Ogilvy, bod calonnau'r teulu "wedi torri'n llwyr".

"Roedd yn oleuni yn ein bywydau, ac nid oes geiriau i ddisgrifio'r gwagle y mae wedi’i adael ar ei ôl," meddai.

"Wrth i’w deulu geisio llywio drwy’r galar anferth hwn, rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r baich ariannol sy’n dod gyda ffarwelio."

Ychwanegodd Mr Ogilvy mai'r bwriad oedd codi £1,000 i fynd tuag at gostau angladd Elis a’r gwasanaethau coffa.

"Ein nod yw caniatáu i’w rieni gael y lle i alaru am eu mab heb bwysau ychwanegol straen ariannol ar unwaith," meddai.

"Ni ddylai unrhyw riant orfod trefnu angladd i’w plentyn, a bydd unrhyw gyfraniad yn ein helpu i roi’r ffarwel hardd y mae Elis yn ei haeddu."

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.