Ansicrwydd yn parhau ymysg rhai llywodraethwyr am adrodd pryderon wedi achos Neil Foden
Mae adroddiad newydd gan Gyngor Gwynedd yn awgrymu fod ansicrwydd yn parhau ymysg rhai athrawon a llywodraethwyr ysgolion y sir ynglŷn â'r broses o adrodd pryderon diogelu am gydweithwyr.
Cafodd yr ymchwiliad sy’n sail i'r adroddiad newydd ei gynnal dros gyfnod o flwyddyn yn dilyn achos Neil Foden.
Cafodd y pedoffeil a'r cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024 am gam-drin merched ifanc.
Dywedodd Cyngor Gwynedd mai bwriad y gwaith ymchwil oedd cael "gwell dealltwriaeth o sut mae trefniadau cyfredol diogelu mewn ysgolion yn gweithio'n ymarferol yng Ngwynedd ac adnabod cyfleoedd i'w cryfhau".
Llywodraethwyr
Mae'r adroddiad newydd, fydd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r cyngor yr wythnos nesaf, yn nodi fod rhai llywodraethwyr yn ansicr o hyd am pa le y dylid troi iddo os oes pryderon diogelu yn codi am benaethiaid ysgolion.
Dywed yr adroddiad: "Un mater a oedd yn codi wrth drafod gyda Llywodraethwyr oedd pwysau a chyfrifoldeb rôl Llywodraethwyr.
"Nodwyd teimlad o fod 'allan o'u dyfnder' gyda'r disgwyliadau a'r cyfrifoldebau, gan gofio mai pobl lleyg ydynt.
"Mae’r sefyllfa yn anoddach fyth wrth dderbyn cwyn/ymdrin â mater diogelu.
"Nodwyd sylwadau nad oedd Llywodraethwyr yn gwybod yn iawn lle i droi os yw'r honiad am y Pennaeth."
Roedd ansicrwydd o hyd hefyd ymysg athrawon mewn un ysgol ynghylch a ddylid codi pryderon ai peidio, meddai awduron yr adroddiad.
Yn yr achos yma roedd y staff wedi "trafod ymysg ei gilydd" am yr hyn y dylid ei wneud.
Mae'r ymchwiliad yn nodi'r angen i wneud hyfforddiant diogelu'n gliriach, fel bod staff yn gwybod y dylid cyfeirio unrhyw bryder yn syth at y "Person Diogelu Dynodedig neu'r Dirprwy Berson Diogelu Dynodedig".
"Yn ystod yr ymchwiliad cafwyd trafodaethau am yr angen i’r hyfforddiant diogelu gynnwys y wybodaeth angenrheidiol mewn modd clir a hawdd i’w ddeall," meddai.
"Nodwyd mewn un ysgol fod staff yn trafod ymysg ei gilydd os nad oeddent yn siŵr a ddylid cofnodi pryder neu beidio.
"Mae angen sicrhau bod yr hyfforddiant diogelu yn hollol glir y dylid cyfeirio at y Person Diogelu Dynodedig (PDD) neu’r Dirprwy Berson Diogelu Dynodedig os oes unrhyw gonsyrn."
Athrawon llanw
Un argymhelliad sydd yn cael ei danlinellu yn yr adroddiad yw os y dylai Adran Addysg Cyngor Gwynedd gymryd rôl mwy uniongyrchol wrth sicrhau bod athrawon llanw yn derbyn hyfforddiant diogelu a gwiriadau DBS.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylid "ystyried os ddylai’r Adran Addysg fod yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod pob/unrhyw athro llanw wedi derbyn yr hyfforddiant priodol ac wedi derbyn gwiriad DBS".
Mae gwiriad DBS yn archwiliad o gofnodion troseddol unigolyn ac yn helpu cyflogwyr a sefydliadau i sicrhau eu bod yn ddiogel i weithio gyda phlant.
Wrth wneud argymhellion i gryfhau trefniadau diogelu mewn ysgolion, dywedodd yr awduron: "Byddai gwydnwch trefniadau diogelu mewn ysgolion yn cryfhau o ganlyniad i fwy o staff wedi cwblhau’r hyfforddiant ar lefel uwch.
"Fel rhan o ystyriaeth o’r argymhelliad yma, amlygir yr angen i gryfhau trefniadau i sicrhau fod athrawon llanw/achlysurol wedi derbyn hyfforddiant diogelu ac yn ymwybodol o drefniadau diogelu fesul ysgol."
Ymateb y Cyngor
Gofynnodd Newyddion S4C i Gyngor Gwynedd a allai gadarnhau bod pob athro llanw sy'n gweithio yn ysgolion y sir wedi cael gwiriad DBS cyn dechrau gweithio.
Yn ei ymateb, dywedodd y cyngor fod pob unigolyn sy'n gweithio mewn ysgolion y sir yn derbyn gwiriad DBS cyn cael eu cyflogi, ond mai ysgolion unigol sy’n gyfrifol am drefnu a gwirio’r trefniadau ar gyfer athrawon llanw.
"O ran athrawon llanw, mae pob unigolyn sy'n gweithio mewn ysgolion Gwynedd yn destun gwiriad DBS a'r holl wiriadau recriwtio diogel perthnasol cyn cael eu cyflogi," meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
"Fel ym mhob sir arall, ysgolion unigol sy'n gyfrifol am drefnu a chyflogi athrawon llanw. Ysgolion sydd hefyd yn gyfrifol am wirio bod yr unigolion hynny wedi derbyn y gwiriadau a'r hyfforddiant diogelu angenrheidiol.
"Yn ogystal, mae athrawon llanw hunangyflogedig sy'n dymuno gweithio yn ysgolion Gwynedd yn cael eu gwahodd i fynychu hyfforddiant diogelu yn flynyddol."
Yng Nghymru, mae’n rhaid i bob athro, gan gynnwys athrawon llanw, gael y gwiriadau angenrheidiol cyn dechrau gweithio mewn ysgol.
Mae'r corff arolygu ysgolion, Estyn, yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal gwiriadau cadarn, gan gynnwys ar gyfer aelodau o staff dros dro.
'Cyfleoedd i gryfhau trefniadau'
Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, y Cynghorydd Cai Larsen, fod yr ymchwiliad wedi dangos bod "cyfleoedd i gryfhau trefniadau ymhellach".
"Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd megis hyfforddiant, rhannu gwybodaeth, cefnogi llywodraethwyr, gwrando ar lais disgyblion a sicrhau bod pryderon yn cael eu cofnodi a’u hystyried mewn modd sy’n galluogi adnabod patrymau risg cyn i niwed ddigwydd," meddai.
"Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion yn cyfrannu at adeiladu ar y diwylliant a welwyd yn yr ysgolion lle mae pob pryder yn cael ei gymryd o ddifri, gan ddysgu’n barhaus a bod pob plentyn yn gwybod ble i droi am gymorth er mwyn sicrhau’r safonau uchaf posibl o ddiogelu."
'Arfer da'
Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: “Mae llawer o waith wedi ei wneud gan Gyngor Gwynedd i gryfhau a thynhau trefniadau diogelu yn ysgolion y sir, ers cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn 2024.
“Roeddwn yn falch o ddysgu fod yr ymchwiliad wedi dod i’r casgliad bod llawer o arfer da eisoes yn bodoli yn ysgolion Gwynedd, gyda staff a llywodraethwyr yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelwch a lles plant.
“Rydw i hefyd yn ddiolchgar am yr argymhellion. O’u gweithredu bydd cyfleoedd i gryfhau trefniadau ymhellach drwy wella cysondeb, rhannu gwybodaeth, datblygu hyfforddiant, cefnogi llywodraethwyr a galluogi adnabod patrymau risg yn gynnar.
“Rydw i’n hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth yn y Pwyllgor.”
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd ar 14 Gorffennaf.
