'Anochel' y bydd rhai plant yn osgoi rheolau sy'n gwahardd y cyfryngau cymdeithasol meddai Ofcom
Mae’r rheoleiddiwr Ofcom wedi rhybuddio ei fod yn anochel y bydd rhai plant o dan 16 oed yn dod o hyd i ffyrdd o osgoi mesurau i’w hatal rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Ddydd Iau fe wnaeth Ofcom gyhoeddi asesiad o sut y gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gyfyngu ar fynediad plant at gynnwys i oedolion neu gynnwys niweidiol.
Mae Ofcom wedi nodi pedwar dull a allai fod yn “hynod effeithiol” wrth wirio bod defnyddwyr yn 16 oed neu’n hŷn, ond dywedodd y rheoleiddiwr na fyddai modd atal pawb rhag osgoi’r gwiriadau.
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Andy Burnham yn bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaharddiad. Mae disgwyl i’r llywodraeth gyflwyno rheoliadau i’w gadarnhau erbyn diwedd y flwyddyn, gyda’r bwriad o roi’r rheolau ar waith yn 2027.
Cafodd gwaharddiad tebyg ei gyflwyno yn Awstralia y llynedd.
Mae’r dulliau sydd wedi eu hamlygu gan y rheoleiddiwr yn cynnwys defnyddio dogfen adnabod â llun, gwiriad drwy fanc, technoleg sy’n amcangyfrif oedran o lun wyneb, a gwasanaeth adnabod digidol.
1. Dogfen adnabod â llun
Byddai gwybodaeth ar ddogfen fel pasbort yn cael ei gwirio ochr yn ochr â llun byw o’r defnyddiwr, wedi’i dynnu yn ystod y gwiriad.
Y nod fyddai cadarnhau oedran y person a sicrhau mai ef neu hi yw perchennog y ddogfen.
2. Gwiriad drwy fanc
Byddai’r dull hwn yn defnyddio’r wybodaeth sydd gan fanc neu sefydliad ariannol am oedran y defnyddiwr.
Nid yw’r union broses wedi’i chadarnhau eto, gan gynnwys sut y byddai banciau’n helpu i wneud y gwiriadau.
3. Amcangyfrif oedran o lun wyneb
Byddai technoleg yn dadansoddi llun o wyneb y defnyddiwr ac yn amcangyfrif ei oedran.
Amcangyfrif fyddai hwn, yn hytrach na chadarnhau dyddiad geni. Mae Ofcom yn dweud bod y dechnoleg wedi gwella, ond mae’n gallu bod sawl blwyddyn allan wrth amcangyfrif oedran rhai pobl.
4. Gwasanaeth adnabod digidol
Byddai gwasanaeth adnabod digidol yn galluogi defnyddwyr i brofi pwy ydyn nhw, neu gadarnhau gwybodaeth benodol amdanyn nhw, fel eu hoedran.
Nid yw’r argymhelliad hwn ynddo’i hun yn golygu y bydd rhaid i bawb gael un math penodol o gerdyn adnabod digidol.
‘Anochel’ y bydd plant yn osgoi’r gwiriadau
Dywedodd Ofcom ei bod yn “anochel” y byddai rhai pobl dan 16 oed yn llwyddo i osgoi’r gwiriadau.
Ond ychwanegodd y gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol leihau’r risg drwy ei gwneud yn haws i bobl roi gwybod am gyfrifon sy’n cael eu hamau o fod yn eiddo i blant dan oed.
Yn ôl yr asesiad, amcangyfrifir nad oes gan tua 150,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed drwydded yrru na phasbort, sy’n cyfyngu ar eu hopsiynau ar gyfer profi eu hoedran.
Dywedodd prif weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes: “Bydd y gwaharddiad hwn yn siapio dyfodol bywydau plant ar-lein, felly mae’n bwysig cael hyn yn gywir.
“Gall weithio os bydd y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cynnal gwiriadau oedran hynod effeithiol yn iawn, ac rydym wedi amlinellu’r ffyrdd o wneud hynny,” meddai.
Mae’r rheoleiddiwr wedi dweud ei fod yn datblygu canllawiau drafft ar gyfer cwmnïau cyfryngau cymdeithasol. Bydd ymgynghoriad ar y canllawiau pan fydd cynlluniau’r llywodraeth gerbron Senedd San Steffan.