‘Annerbyniol’: Condemnio cynllun Israel am ragor o gartrefi yn y Lan Orllewinol

Ardal E1

Mae cynlluniau gan Israel i wahodd tendrau ar gyfer adeiladu tua 1,200 o gartrefi yn y Lan Orllewinol wedi arwain at feirniadaeth o’r newydd gan brif bwerau gwledydd y gorllewin.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y DU, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chanada fod y cynlluniau yn “annerbyniol” ac y dylen nhw gael eu “tynnu’r ôl ar unwaith”. 

Mae’r cartrefi arfaethedig mewn rhan strategol bwysig o’r Lan Orllewinol sydd wedi ei feddiannu gan Israel.

Oherwydd pwysau rhyngwladol, fe wnaeth Israel ymatal am ddegawdau rhag bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu yn ardal E1, i’r dwyrain o Jerwsalem.

Mae llawer o gynghreiriaid Israel a Phalesteina wedi dadlau y byddai’r datblygiad hwn yn ergyd drom i’r gobaith o sicrhau datrysiad dwy wladwriaeth. 

Byddai i bob pwrpas yn rhannu’r Lan Orllewinol yn ddwy ac yn ynysu Dwyrain Jerwsalem.

Mae pob anheddiad o’r fath yn anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol. 

“Ar adeg o ansefydlogrwydd difrifol yn y Lan Orllewinol, gyda lefelau digynsail o drais gan ymsefydlwyr yn erbyn sifiliaid, a chyfyngiadau sylweddol ar economi Palestina, mae’r penderfyniad hwn yn fwy pryderus fyth,” meddai’r datganiad gan y cynghreiriaid Ewropeaidd a Chanada.

“Bydd y cynlluniau nid yn unig yn mynd â ni ymhellach oddi wrth heddwch, ond byddan nhw hefyd yn tanseilio statws rhyngwladol Israel ymhellach.”

Mewn datganiad ar wahân, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod cynllun E1 yn “fygythiad dirfodol” i wladwriaeth Balesteinaidd.

Roedd sylwadau Ysgrifennydd Tramor y DU, Ed Miliband, yn gwrthwynebu y cartrefi yn gynharach ddydd Iau wedi cael ei wrthod yn llwyr gan weinidog tramor Israel.

"Mae polisi systematig llywodraeth y DU o feio Israel yn unig wrth anwybyddu eithafiaeth Palesteinaidd eisoes wedi cyfrannu at don enfawr o gasineb ac ymosodiadau gwrth-Semitaidd yn erbyn y gymuned Iddewig Brydeinig," meddai gweinidog tramor Israel, Gideon Sa'ar.

Mae’r cynllun yn cwmpasu tua 4.6 milltir sgwâr rhwng Dwyrain Jerwsalem ac anheddiad Maale Adumim.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 19 Hydref, ychydig ddyddiau cyn etholiad cyffredinol Israel ar 27 Hydref. 

Llun: Ardal E1 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.